An Uhelgoad
Jump to navigation
Jump to search
| |
![]() | |
Math |
cymuned ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
1,449 ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Benoît Michel ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
14.87 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Berrien, Brenniliz, Ar Fouilhez, Lokmaria-Berrien, Plouie, Poullaouen ![]() |
Cyfesurynnau |
48.3644°N 3.7447°W ![]() |
Cod post |
29690 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Maer Huelgoat ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Benoît Michel ![]() |
![]() | |
Mae An Uhelgoad (Ffrangeg: Huelgoat) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Berrien, Brennilis, La Feuillée, Locmaria-Berrien, Plouie, Poullaouen ac mae ganddi boblogaeth o tua 1,449 (1 Ionawr 2017).
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.
Ystyr yr enw ydy "uchel goed".
Poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Llefydd o ddiddordeb[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae nifer o hynodion daearegol a cyn hanesyddol i'w gweld drwy ddilyn llwybrau yn, ac o amgylch, y pentref a'r goedwig. Ymhlith y rhain mae:
- Le Chaos de Rochers, Y Tryblith o Greigiau, yn gymysgedd o gannoedd o glogfeini mawr o dan lyn argae, i'r hwn y mae'r afon yn diflannu..
- La Roche Tremblante Y Graig sy'n Crynu, clogfaen 137-tunnell gerllaw, wedi ei golynnu mewn modd ei hysgwyd wrth wthio yn ei herbyn.
- Le Champignon, Y Madarch, craig fawr yn cydbwyso ar un llai.
- La Mare aux Fees, Pwll y tylwyth teg .
- La Mare aux Sangliers, Pwll y baedd gwyllt.
- Le Camp d'Artus, Gwersyll Arthur, bryngaer pentir môr yn seiliedig ar oppidum Galeg, gyda rhagfur llinol murus gallicus. Fe'i defnyddiwyd fel lloches gan y Galiaid Osisme yn erbyn y goresgyniad Rhufeinig ym 57 CC, ac yn ddiweddarach cafoddl llysenw yn cyfeirio at chwedl Arthuraidd. Cloddiwyd y safle gan Syr Mortimer Wheeler.
- La Grotte d'Artus, neu Ogof Arthur, cysgod naturiol a ffurfiwyd o dan do o greigiau caeth.
- Mae Ardd Goed Poërop yn ardd goed lleol gyda chasgliad, a gydnabyddir yn genedlaethol, o goed masarn, ymhlith casgliadau sylweddol arall.