An Riabhachan

Oddi ar Wicipedia
An Riabhachan
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolNorthwest Highlands Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Uwch y môr1,129 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.362438°N 5.104728°W Edit this on Wikidata
Cod OSNH1336634472 Edit this on Wikidata
Amlygrwydd302 metr Edit this on Wikidata
Map

Mae An Riabhachan yn gopa mynydd a geir ar y daith o Killilan i Inverness yn Ucheldir yr Alban; cyfeiriad grid NH133344. Ceir carnedd ar y copa. Saif 35 kilometr i'r dwyrain o Kyle of Lochalsh ymhell o bobman ar ochr orllewinol Loch Mullardoch, deg milltir o unrhyw ffordd cyhoeddus.

Mae'r enw "Yr Un Brith" yn cyfeirio, mae'n debyg, i liw brith y garreg.

Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro, Murdo a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Ailfesurwyd uchder y copa hwn ddiwethaf ar 15 Ionawr 2003.

Gwneir bob ymdrech i ganfod yr enw yn yr iaith wreiddiol, a gwerthfawrogwn eich cymorth os gwyddoch yr enw Gaeleg.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]