Amy Dowden
| Amy Dowden | |
|---|---|
| Ganwyd | 10 Awst 1991 Caerffili |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | dawnsiwr |
Mae Amy Dowden MBE (ganwyd 10 Awst 1990) yn ddawnswraig neuadd broffesiynol o Gymru sy'n dod o Gaerffili. Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei hymddangosiadau ar raglen deledu Strictly Come Dancing ar BBC One. Ymunodd Dowden â’r gyfres yn 2017, ac yn 2019, cyrhaeddodd rownd derfynol yr ail gyfres ar bymtheg gyda’r cyflwynydd teledu Karim Zeroual. Mae Dowden a’i phartner Ben Jones yn gyn Bencampwyr Dawns Ladin Cenedlaethol Prydain. Mae ganddi Record Byd Guinness am y nifer fwyaf o gamau cefn - Charleston mewn 30 eiliad (2022). Mae ganddi efaill a brawd hŷn.[1]
Yn 2025, cyhoeddodd yr Urdd ynghyd â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru chwech gwobr newydd sbon i gystadleuwyr sy'n serennu ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Gwobr Amy Dowden oedd y gwobr dawns.[2][3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Syr Alan Bates a gweddill Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin". Newyddion S4C. Cyrchwyd 15 Mehefin 2024.
- ↑ "Urdd Gobaith Cymru / Gwobrau'r Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru". www.urdd.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2025-07-18. Cyrchwyd 25 Mai 2025.
- ↑ "Chwech o sêr y dyfodol i dderbyn gwobrau". Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. 29 Ionawr 2025. Cyrchwyd 25 Mai 2025.