Amiodaron

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Amiodarone structure.svg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol Cyfansoddyn cemegol, meddyginiaeth, cyffur hanfodol Edit this on Wikidata
Math antiarrhythmic agent, benzofurans Edit this on Wikidata
Màs 645.024 Uned dalton edit this on wikidata
Fformiwla gemegol C₂₅h₂₉i₂no₃ edit this on wikidata
Enw WHO Amiodarone edit this on wikidata
Clefydau i'w trin Arhythmia'r galon, supraventricular tachycardia, ffibriliad fentriglaidd, clefyd y galon, atrial flutter, ffibriliad atrïaidd, ventricular tachycardia edit this on wikidata
Beichiogrwydd Categori beichiogrwydd unol daleithiau america d edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae amiodarone yn feddyginiaeth sydd yn cael ei ddefnyddio i drin nifer o gyflyrau sy'n achosi rhythm calon annormal. Yn y DU mae'n cael ei ddosbarthu gan gwmni Sanofi o dan yr enw Cordarone x[1]. Mae ar gael ar ffurf tabled fel cyffur generig.[2] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₂₅H₂₉I₂NO₃.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Datblygwyd amiodarone gyntaf ym 1961 gan ddod i ddefnydd meddygol ym 1962 ar gyfer poen y frest a gredir ei fod yn gysylltiedig â'r galon. Fe'i tynnwyd o'r farchnad ym 1967 oherwydd sgil effeithiau. Ym 1974 gwelwyd bod yn ddefnyddiol ar gyfer arrhythmia a chafodd ei ailgyflwyno. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd[3]

Defnydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae amiodarone yn cael ei ddefnyddio i drin ffibriliad rhedwelïol a fentriglaidd cylchol. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i drin chwimguriad fentrigliaidd y galon a  chwimguriad uwch fentrigliaidd y galon. Mae'n cael ei ddefnyddio i drin syndrom Wolff-Parkinson-Whyte[4].

Dos[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae amiodarone ar gael fel tabledi neu fel pigiad. Gan fod gan y cyffur sgil effeithiau difrifol mae triniaeth gychwynnol yn cael ei roi mewn ysbyty o dan oruchwyliaeth arbenigwr. Mae ar gael drwy ragnodyn yn unig. Y dos arferol yw 600 mg y dydd yn cael ei leihau i 400 mg y dydd a 100–200 mg y dydd. Ar ffurf tabledi mae'n dechrau gweithio rhwng 72 awr a rhai wythnosau, ond trwy bigiad mae'n dechrau gweithio o fewn hanner awr. Gall ei effeithiau para rhwng 3 a 12 mis.

Sgil effeithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae nifer o sgil effeithiau yn perthyn i'r cyffur, ymysg y rhai mwyaf cyffredin yw:

  • Chwydu / teimlo'n gyfoglyd
  • Anaf i'r afu
  • Gor sensitifrwydd i olau
  • Aflonyddu ar yr olwg

Mae sgil effeithiau llai cyffredin yn cynnwys

Beichiogrwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ni ddylai merched beichiog defnyddio'r cyffur

Bwydo ar y bron[golygu | golygu cod y dudalen]

Gall cael ei drosglwyddo i'r baban gan hynny nid yw'n cael ei gymeradwyo ar gyfer mamau sy'n bwydo ar y fron.

Gyrru[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylid osgoi gyrru a gwaith peryglus arall hyd wybod effeithiau'r cyffur. Un o'r peryglon mawr wrth yrru yw bod y cyffur yn amlhau effaith dallu goleuadau cryf.

Alcohol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n iawn yfed yn gymedrol

Defnydd meddygol[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • arhythmia'r galon
  • ffibriliad fentriglaidd
  • clefyd y galon
  • ffibriliad atrïaidd
  • Enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Amiodaron, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;

  • Cordarone®
  • 2-n-Butyl-3',5'-diiodo-4'-N-diethylaminoethoxy-3-benzoylbenzofuran
  • 2-Butyl-3-benzofuranyl 4-(2-(diethylamino)ethoxy)-3,5-diiodophenyl ketone
  • 2-Butyl-3-(3,5-diiodo-4-(2-diethylaminoethoxy)benzoyl)benzofuran
  • amiodarone hydrochloride
  • Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

    1. "Cordarone X Intravenous". emc. Cyrchwyd 15 Chwefror 2018.
    2. Pubchem. "Amiodaron". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    3. Rhestr Meddyginiaethau Hanfodol 2015 (Rhif 19) adalwyd 15 Chwefror 2018
    4. "Web MD - Amiodarone".


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!