Amgueddfa Dinbych

Oddi ar Wicipedia
Amgueddfa Dinbych
Mathamgueddfa leol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadDinbych Edit this on Wikidata
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr73 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.187094°N 3.41701°W Edit this on Wikidata
Cod postLL16 3BW Edit this on Wikidata
Map

Amgueddfa cymunedol yw Amgueddfa Dinbych sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr o Hen Lys Ynadon Dinbych. Tra bod amgueddfa wedi bod mewn bodolaeth yn y dref ers 1989, fel rhan o'r llyfrgell, caewyd ef yn 2004. Yn y blynyddoedd ers hynny bu ymgyrch i'w ail-sefydlu ac yn Rhagfyr 2013 prynnodd Cyngor Tref Dinbych yr hen Lys Ynadon. Yn 2014 roedd yr adeilad wrthi'n cael ei addasu yn amgueddfa gyhoeddus.

Llyfrgell Dinbych, ble lleolwyd Amgueddfa Dinbych hyd at 2004.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ym 1972 ffurfiwyd Cymdeithas Hanes Lleol ac Amgueddfa yn Ninbych. Yn ystod y saith degau a blynyddoedd cynnar yr wyth degau cafwyd ceisiadau ganddynt hwy ac eraill i annog yr awdurdodau lleol ar y pryd i gydnabod bod angen amgueddfa. Yn ystod yr wyth degau, dechreuodd yr hen Gyngor Sir Clwyd ddangos diddordeb yn natblygiad amgueddfeydd (ac orielau) fel rhan annatod o gyfleusterau llyfrgelloedd newydd. Awgrymwyd nifer o safleoedd a phenodwyd yr hen Neuadd y Sir yn Llyfrgell, Amgueddfa ac Oriel ym 1989.

Ym marn y bobl leol, roedd yr amgueddfa yma'n hollol annigonol.

Methodd yr amgueddfa â chyflawni’r meini prawf ar gyfer ei chofrestru’n amgueddfa (Cyfnod 2) gyda’r canlyniad iddi gael ei dileu oddi ar Gofrestr yr Amgueddfeydd ym mis Chwefror 2004 yn dilyn ymgynghori rhwng y corff asesu a Chyngor Sir Ddinbych. Yr adeg honno, roedd y Cyngor wedi ymrwymo i adfer statws cofrestredig ar gyfer Amgueddfa Dinbych a chomisiynodd astudiaeth ym mis Gorffennaf 2004 er mwyn gwneud argymhellion i gyflawni hyn. Ni weithredwyd yr argymhellion a pheidiodd Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych ag arddangos eu heitemau yn 2005. Yn sgil hyn ffurfwyd Grŵp Amgueddfa Dinbych yn 2006 er mwyn ymgyrchu i sefydlu amgueddfa gymunedol yn Ninbych.

Comisiynwyd astudiaeth dichonoldeb gan Gadwyn Clwyd ar ran Grŵp Amgueddfa Dinbych er mwyn canfod a fyddai sefydlu amgueddfa yn Ninbych yn ddichonol o safbwynt ymarferol ac economaidd. Cynhaliwyd yr astudiaeth rhwng Hydref 2011 a Mehefin 2012 gan John Marjoram, ymgynghorydd amgueddfeydd a threftadaeth, yn gweithio gyda Geraint Roberts (B3Architects) a Simon Hughes (SPP Projects Cyf – Syrfewyr Siartredig).

Aseswyd nifer o leoliadau posibl yn y dref, yn erbyn rhestr o feini prawf, er mwyn ffurfio amgueddfa lwyddiannus. Rhoddwyd ystyriaeth drylwyr i dri adeilad - Gwesty’r Goron, Sefydliad yr Eglwys a'r hen Lys Ynadon. Penderfynwyd ma'r Llys Ynadon, Lôn Goch oedd yn cynnig y cyfle gorau.