Amddiffynnydd tir
Gorymdaith "Stand with Standing Rock" 2016. Roedd sloganau'r brotest yn cynnwys y geiriau "Rydym yma i warchod" ac "Amddiffynnwn ein tir." | |
Enghraifft o'r canlynol | avocation |
---|---|
Math | amgylcheddwr, ymgyrchydd, amddiffynnwr yr amgylchedd |
Mae amddiffynnwr tir, neu amddiffynnwr amgylcheddol yn ymgyrchydd sy'n gweithio i amddiffyn ecosystemau a'r hawl ddynol i amgylchedd diogel, iach.[1][2][3] Yn aml, mae amddiffynwyr yn aelodau o gymunedau brodorol sy'n amddiffyn hawliau eiddo tiroedd hynafol yn wyneb gwladoli, llygru, disbyddu mwynau neu ddinistrio.[4]
Gall tir a'i adnoddau gael eu hystyried yn gysegredig gan bobloedd brodorol, ac mae gofalu am dir yn cael ei ystyried yn ddyletswydd sy'n anrhydeddu'r hynafiaid, y bobloedd presennol, a chenedlaethau'r dyfodol.[5]
Mewn rhai mannau, mae amddiffynwyr tir yn wynebu erledigaeth ddifrifol gan gynghreiriau gwleidyddol a chorfforaethol pwerus sy'n elwa'n ariannol o echdynnu adnoddau. Mae echdynnu adnoddau, fel rheol, yn achosi llygredd. Penderfynodd Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig fod amddiffynwyr tir "ymhlith yr amddiffynwyr hawliau dynol sydd fwyaf agored i'w herlid, a'u niweidio."[1]
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Yn ystod protestiadau yn erbyn Piblinell Dakota yn 2016, rhwystrodd aelodau o'r Neilldir Indiaidd Standing Rock y gwaith o adeiladu'r biblinell er mwyn amddiffyn cyflenwad tir a dŵr eu pobl. Arweiniodd yr ymdrech hon ar lawr gwlad at gannoedd o bobl yn cael eu harestio a gwrthdaro gyda'r heddlu a milwyr y Gwarchodlu Cenedlaethol. Disgrifiodd erthyglau negyddol yr amddiffynwyr tir brodorol fel “protestwyr,” term a wadwyd gan lawer o weithredwyr amgylcheddol.
Beirniadodd yr actifydd amgylcheddol a'r actor Dallas Goldtooth o'r Rhwydwaith Amgylcheddol Cynhenid y term "protestiwr," gan nodi bod y gair yn negyddol ac yn awgrymu bod pobl Brodorol yn ddig, yn dreisgar, neu'n oramddiffynnol o'u hadnoddau.[6]
Yn lle hynny, mae aelodau'r mudiad yn cyfeirio at eu hunain fel "amddiffynwyr tir", term sy'n pwysleisio heddychiaeth a chyfrifoldeb i ofalu am diroedd hynafol a all fod yn rhan o dreftadaeth yr amddiffynnwr.[7]
Datganodd y gwarchodwr tiroedd Labrador (yr Inuit) Denise Cole, "Yr hyn mae cyfraith trefedigaethol yn ei alw'n brotestio, yw'r hyn rwyf yn ei alw'n seremoni."[8]
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae amddiffynwyr tir yn chwarae rhan weithredol a chynyddol amlwg mewn gweithredoedd i ddiogelu, anrhydeddu a dod a'r ymgyrch dros diroedd yn weladwy. Ceir cysylltiadau cryf rhwng y mudiad amddiffyn dŵr, y mudiad amddiffyn tir a'r mudiad amgylcheddol gynhenid.[9][10] Mae amddiffynwyr tir yn gwrthsefyll gosod piblinellau, diwydiannau tanwydd ffosil,[11] dinistrio tiriogaeth naturiol fel amaethyddiaeth yn enw datblygiad neu godi tai, a gweithgareddau echdynnu adnoddau fel ffracio oherwydd gall y gweithredoedd hyn arwain at ddiraddio tir, dinistrio coedwigoedd, ac aflonyddu ar gynefinoedd naturiol.[12][13] Mae amddiffynwyr tir yn gwrthsefyll gweithgareddau sy'n niweidio tir, yn enwedig ar draws tiriogaethau brodorol ac mae eu gwaith yn gysylltiedig â hawliau dynol.[14]
Gall actifiaeth ddod ar ffurf codi gwarchau ar diroedd y brodorion, neu diriogaethau traddodiadol y brodorion i rwystro corfforaethau cyfalafol rhag echdynnu adnoddau.[15][16][17] Mae amddiffynwyr dŵr a thir hefyd yn codi gwersylloedd fel ffordd o feddiannu tiriogaethau traddodiadol a chryfhau cysylltiadau diwylliannol. Gweithredant hefyd trwy fframweithiau cyfreithiol fel systemau llysoedd y llywodraeth mewn ymdrech i gadw rheolaeth ar diriogaethau traddodiadol.[5][18] Mae anufudd-dod sifil yr amddiffynwyr tir yn aml yn cael eu troseddoli a phlismona a thrais trymach yn eu herbyn.[19][20]
Mae merched yn rhan annatod o lwyddiant y mudiad, gan eu bod yn aml yn amddiffynwyr tir i'w gweld o flaen y gwarchaeau ac mewn protestiadau.[21]
Peryglon yn wynebu amddiffynwyr tir
[golygu | golygu cod]Adroddodd Global Witness y cafwyd 1,922 o lofruddiaethau amddiffynwyr tir mewn 57 o wledydd rhwng 2002 a 2019.[1] Roedd 40% o'r dioddefwyr yn frodorol,[22] er eu bod yn cyfrif am 6% o'r boblogaeth fyd-eang.[23] Mae dogfennaeth y trais hwn hefyd yn anghyflawn, ymgais i guddio'r trais yn eu herbyn.
Yn 2020, fe gododd y nifer o amddiffynwyr tir a laddwyd i'w lefel uchaf erioed o 227.[24]
Gofynodd Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig, David R. Boyd, "Sut allwn ni amddiffyn cyfoeth rhyfeddol amrywiaeth bywyd ar y Ddaear os na allwn amddiffyn amddiffynwyr amgylcheddol?"[25] Datgan ymhellach bod cymaint â chant o amddiffynwyr tir yn cael eu drwg-dychryn, eu harestio neu eu haflonyddu am bob un sy'n cael ei ladd.[1]
Roedd heddlu cenedlaethol Canada, yr RCMP, yn barod i ladd amddiffynwyr tir mewn protest yn 2019 yn British Columbia.[26]
Adroddodd Yale Environment 360 fod o leiaf 212 o ymgyrchwyr amgylcheddol ac amddiffynwyr tir wedi’u llofruddio yn 2019.[27] Digwyddodd dros hanner y llofruddiaethau yng Ngholombia a Philippines.[27][28]
Rhai amddiffynwyr tir sydd wedi cael eu lladd
[golygu | golygu cod]- Berta Isabel Cáceres Flores (4 Mawrth 1971 - 2 Mawrth 2016) ymgyrchydd amgylcheddol Honduraidd, arweinydd brodorol
- Lladdwyd Paulo Paulino Guajajara, Brasil, yn 2019 mewn cudd-ymosod gan dorrwyr coed anghyfreithlon rhanbarth Amazon.[29][30]
- Chico Mendes, Brasil, Amgylcheddwr ac actifydd.
- Hernán Bedoya, gweithredwr hawliau tir Affro-Colombiaidd.
- Lladdwyd Julián Carrillo, arweinydd brodorol Rarámuri, Mecsico ar 24 Hydref 2018.[31][32][33]
- Lladdwyd Datu Kaylo Bontolan, pennaeth llwythol Manobo, aelod o Gyngor Cenedlaethol Arweinwyr Katribu, Gogledd Mindanao, Philippines ar 7 Ebrill 2019.[28][34]
- Lladdwyd Omar Guasiruma, arweinydd Cynhenid, Colombia ym Mawrth 2020.[28]
- Lladdwyd Ernesto Guasiruma, arweinydd Cynhenid, Colombia ym Mawrth 2020.[28]
- Lladdwyd Simón Pedro Pérez, arweinydd brodorol ar 6 Gorffennaf 2021, Chiapas, Mecsico.[35][36]
- Cafwyd hyd i Javiera Rojas, amgylcheddwr ac actifydd o Chile, yn farw yn Nhachwedd 2021.[37]
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Amnest Rhyngwladol (2016). "They Will Not Stop Us. Ecuador: Justice and Protection for Amazonian Women, Defenders of the Land, Territory, and Environment" (PDF).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Larsen, Billon, Menton, Aylwin, Balsiger, Boyd, Forst, Lambrick, Santos, Storey, Wilding (2021). "Understanding and responding to the environmental human rights defenders crisis: The case for conservation action". Conservation Letters 14 (3). doi:10.1111/conl.12777. https://conbio.onlinelibrary.wiley.com/doi/pdf/10.1111/conl.12777.
- ↑ Ducklow, Zoë (10 Ionawr 2019). "Judy Wilson's Message for Canadians: 'The Land Defenders Are Doing This for Everybody'". The Tyee (yn English). Cyrchwyd 20 Ionawr 2020.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Protesters? Or land protectors?". The Indy (yn Saesneg). 28 October 2016. Cyrchwyd 15 Ionawr 2020.
- ↑ "Land defence and defenders". iwgia.org.
- ↑ 5.0 5.1 "Illegal protest or protecting the land? An Indigenous woman gets ready to face a Canadian court - APTN News". aptnnews.ca (yn Saesneg). 18 September 2018. Cyrchwyd 12 Ionawr 2019.
- ↑ "Standing Rock activists: Don't call us protesters. We're water protectors". The World from PRX (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-13.
- ↑ "We Are Land Protectors, Not Protesters". YouTube.
- ↑ Moore, Angel (2018-09-18). "Illegal protest or protecting the land? An Indigenous woman gets ready to face a Canadian court". APTN News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-13.
- ↑ "Meet Josephine Mandamin (Anishinaabekwe), The "Water Walker"". Indigenous Rising (yn Saesneg). 25 September 2014. Cyrchwyd 10 Ionawr 2019.
- ↑ Maial Panhpunu Paiakan Kaiapó (October 24, 2020). "Opinion: The devastation of my Amazon homeland has accelerated during the pandemic". The Globe and Mail. Cyrchwyd 2021-02-11.
- ↑ "Mi'kmaq water protectors blocking fossil fuel infrastructure in Nova Scotia | rabble.ca". rabble.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-07. Cyrchwyd 10 Ionawr 2019.
- ↑ McKenzie-Sutter, Holly (November 27, 2020). "Indigenous land occupants in Caledonia appeal injunction". Toronto Sun (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-11.
- ↑ Kestler-D'Amours, Jillian. "'RCMP off Wet'suwet'en land': Solidarity grows for land defenders". www.aljazeera.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-11.
- ↑ "Beatings, Imprisonment, Murder: The World's Environmental Defenders Are Being Terrorized". Global Citizen (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Ionawr 2020.
- ↑ "Standing Rock activists: Don't call us protesters. We're water protectors". Public Radio International (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Ionawr 2019.
- ↑ "Barricades up in Caledonia after attempted arrest of land defender". The Hamilton Spectator (yn Saesneg). 2020-10-05. ISSN 1189-9417. Cyrchwyd 2021-02-11.
- ↑ "Caledonia land occupation criminal cases move through courts". The Hamilton Spectator (yn Saesneg). 2020-11-25. ISSN 1189-9417. Cyrchwyd 2021-02-11.
- ↑ "Beatings, Imprisonment, Murder: The World's Environmental Defenders Are Being Terrorized". Global Citizen (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Ionawr 2020.
- ↑ Simpson, Michael; Le Billon, Philippe (2021-02-01). "Reconciling violence: Policing the politics of recognition" (yn en-ca). Geoforum 119: 111–121. doi:10.1016/j.geoforum.2020.12.023. ISSN 0016-7185.
- ↑ Spiegel, Samuel J. (2021-01-01). "Climate injustice, criminalisation of land protection and anti-colonial solidarity: Courtroom ethnography in an age of fossil fuel violence" (yn en-ca). Political Geography 84: 102298. doi:10.1016/j.polgeo.2020.102298. ISSN 0962-6298. PMC 7544477. PMID 33052177. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7544477.
- ↑ Lange, Shauna M. (2020), "Saving Species, Healthy Humanity: The Key Role of Women in Ecological Integrity" (yn en-ca), Ecological Integrity in Science and Law (Cham: Springer International Publishing): 85–96, doi:10.1007/978-3-030-46259-8_8, ISBN 978-3-030-46258-1
- ↑ "5 deadly countries for environmental defenders". Deutsche Welle (yn Saesneg). 2020-07-28. Cyrchwyd 2022-04-14.
- ↑ "Indigenous Peoples". World Bank (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-14.
- ↑ "Murders of environment and land defenders hit record high". the Guardian (yn Saesneg). 2021-09-12. Cyrchwyd 2022-04-13.
- ↑ Menton, Mary; Le Billon, Philippe (2021-06-24). Environmental Defenders: Deadly Struggles for Life and Territory (yn Saesneg). Routledge. ISBN 978-1-000-40221-6.
- ↑ Parrish, Jaskiran Dhillon Will (20 December 2019). "Exclusive: Canada police prepared to shoot Indigenous activists, documents show". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 15 Ionawr 2020.
- ↑ 27.0 27.1 "More Than 200 Environmental Activists and Land Defenders Murdered in 2019". Yale E360 (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-10.
- ↑ 28.0 28.1 28.2 28.3 "Record 212 land and environment activists killed last year". the Guardian (yn Saesneg). 2020-07-29. Cyrchwyd 2021-07-10.
- ↑ Cowie, Sam (2 November 2019). "Brazilian 'forest guardian' killed by illegal loggers in ambush". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 15 Ionawr 2020.
- ↑ "Brazil Amazon forest defender shot dead by illegal loggers". www.aljazeera.com. Cyrchwyd 15 Ionawr 2020.
- ↑ "Julián Carrillo defended the forest with his life". www.amnesty.org (yn Saesneg). 28 November 2018. Cyrchwyd 15 Ionawr 2020.
- ↑ "Mexico's environmental defenders need justice and protection". www.amnesty.org (yn Saesneg). 24 October 2019. Cyrchwyd 2021-07-10.
- ↑ "Indigenous rights leader reported slain in northern Mexico". AP News (yn Saesneg). 2018-10-25. Cyrchwyd 2021-07-10.
- ↑ "Datu Kaylo Bontolan". HRD Memorial: Celebrating Those Who Were Killed Defending Human Rights (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-10.
- ↑ "Indigenous Land Defender Assassinated in Chiapas". Democracy Now! (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-08.
- ↑ "Mexico rights organizer killed, 3rd activist to die in month". AP News (yn Saesneg). 2021-07-06. Cyrchwyd 2021-07-10.
- ↑ "Chilean Activist Javiera Rojas, Who Helped Shut Down Dam Projects, Has Been Killed". Democracy Now! (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-12-06.