Alys Thomas
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Gwybodaeth bersonol | |||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ganwyd | Llundain, Lloegr | 10 Hydref 1990||||||||||||
Camp | |||||||||||||
Gwlad | Cymru | ||||||||||||
Chwaraeon | Nofio | ||||||||||||
Camp | Dull Pili Pala | ||||||||||||
Clwb | Dinas Abertawe | ||||||||||||
Cofnod o fedalau
| |||||||||||||
Diweddarwyd 20 Ebrill 2018. |
Nofiwr Cymreig yw Alys Thomas (ganwyd 10 Hydref 1990). Fe'i ganwyd yn Isleworth, Llundain i fam o Loegr a thad o Gymru.[1] Cychwynodd nofio pan oedd yn faban ac ymunodd â chlwb nofio Kingston Royals yn 5 oed[2].
Wedi cwblhau ei harholiadau Safon Uwch yn 2008, symudodd i Abertawe i ymuno â'r Ganolfan Berfformiad ym Mhwll Cenedlaethol Cymru ac arhosodd yna ers hynny. Graddiodd yn 2015 â gradd mewn Seicoleg. Mae'n cystadlu dros Gymru a gwledydd Prydain.
Cystadlodd yn y gamp 100m dull pili-pala ym Mhencampwriaethau Mabolgampau Dŵr y Byd 2017.[3][4]
Yng Nghemau'r Gymanwlad 2018, enillodd fedal aur cyntaf Cymru yn y pwll, gan ennill y 200m dull pili-pala mewn amser o 2:05.45.[5]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Alys Thomas. Prifysgol Abertawe. Adalwyd ar 14 Ebrill 2018.
- ↑ Alys Thomas Biography.
- ↑ "Heats results". FINA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-26. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2017.
- ↑ "2017 World Aquatics Championships > Search via Athletes". Budapest 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-02. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2017.
- ↑ Tair aur, dwy arian ac efydd arall i Gymru yn y Gemau , BBC Cymru Fyw, 9 Ebrill 2018. Cyrchwyd ar 14 Ebrill 2018.