Altona, Hamburg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Altona
Black Form White House.jpg
Wappen-Altona.svg
Math bwrdeisdref Hambwrg Edit this on Wikidata
Poblogaeth 261,213 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1535 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Hamburg Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd 78.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 34 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Hamburg-Mitte, Eimsbüttel, Pinneberg, Stade Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.55°N 9.933°E Edit this on Wikidata

Altona Almaeneg: [ˈaltonaː] (Ynghylch y sain hon gwrando) yw'r fwrdeistref drefol (Bezirk) sydd bellaf i'r gorllewin yn nhalaith ddinesig Hamburg, a'r lan yr afon Elbe yn yr Almaen. O 1640 hyd at 1864 roedd Altona o dan weinyddiaeth brenhiniaeth Denmarc a hwn oedd unig borthladd Denmarc ar gyfer cael mynediad uniongyrchol i Fôr y Gogledd. Roedd Altona yn ddinas annibynnol tan 1937.

Awyrlun o Altona o'r de. Gwelir hefyd geioedd ar yr afon Elbe.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd Altona yn 1535 fel pentref i bysgotwyr yn Holstein-Pinneberg. Daeth o dan reolaeth Ddanaidd yn 1640 fel rhan o'r Holstein-Glückstadt, ac yn 1664 derbyniodd hawliau dinesig gan y Brenin Danaidd Frederik III, a oedd bryd hynny yn teyrnasu fel rhan o undeb personol o dan ddugiaeth Holstein. Altona oedd un o drefi porthladd pwysicaf y frenhiniaeth Ddanaidd. Agorwyd y rheilffordd o Altona i Kiel, rheilffordd Hamburg-Altona–Kiel, yn 1844.

Oherwydd y cyfyngiadau caeth ar y nifer o Iddewon oedd yn cael byw yn Hamburg tan 1864 (ag eithrio'r cyfnod rhwng 1811–15,),[1] datblygodd cymuned Iddewig fawr yn Altona o 1611 ymlaen, pan roddodd Cownt Ernest o Schaumburg a Holstein-Pinneberg hawliau preswyl parhaol i Iddewon Ashcenasig.[2] Roedd aelodau o'r gymuned yn masnachu yn Hamburg ac yn Altona ei hun. Y cyfan sydd ar ôl yn dilyn yr Holocost yn ystod yr Ail Ryfel Byd yw'r mynwentydd Iddewig, ond yn y 17g, 18g a'r 19g, daeth y gymuned yn ganolfan bwysig i fywyd ac ysgolheictod Iddewig. Roedd Holstein-Pinneberg a'r Holsten Danaidd yn ddiweddarach yn rhoi llai o dreth ac yn gosod llai o ofynion sifil ar eu cymuned Iddewig na llywodraeth Hamburg.

Arweiniodd y rhyfeloedd rhwng Denmarc a'r Conffederasiwn Almaenig— Y Rhyfel Schleswig Gyntaf (1848–1851) a'r Ail Ryfel Schleswig (Chwefror – Hydref 1864)—a Chonfensiwn Gastein 1864, at Denmarc yn ildio Dugiaethau Schleswig a Holstein i weinyddiaeth Prwsiaidd a Lauenburg i weinyddiaeth Awstriaidd. Ynghyd a Schleswig-Holstein yn ei chyfanrwydd, daeth Altona yn rhan o ddinas rydd Hamburg yn 1867.

Yn 1871 daeth Hamburg (ynghyd ag Altona) yn rhan o Ymerodraeth yr Almaen. Yn yr un flwyddyn cafodd y ddinas ei tharo gan colera, gydag o leiaf 16 o farwolaethau yn Altona.[3]

Yng nghyfnod y Weimar yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd dinas Altona ei chythryblu gan streiciau llafur mawr ac annhrefn ar y strydoedd. Roedd chwyddiant yn broblem fawr yn yr Almaen. Yn 1923, penderfynodd Max Brauer, maer Altona, y dylai pobl y ddinas gael eu talu yn rhannol gyda thocynnau i'r mesurydd nwy, am nad oedd y tocynnau hyn yn colli eu gwerth gyda chwyddiant.[4] Y digwyddiad mwyaf nodedig yn y cyfnod hwn oedd Sul Gwaedlyd Altona (Almaeneg: Altonaer Blutsonntag) ar Gorffennaf 17, 1932 pan saethwyd nifer o bobl gan yr heddlu yn ystod ardystiad o grwpiau Natsiaidd. Ar ol i'r Natsiaid ddod i rym yn yr Almaen, ac yn dilyn cyrchoedd gan yr heddlu a llys arbennig, cafwyd Bruno Tesch ac eraill yn euog ar Awst 1 1933 a'u dedfrydu i farwolaeth trwy dorri pen gyda bwyell.[5][6] Yn y 1990au, gwyrdrowyd dedfryd a chliriwyd enwau Tesch a'r dynion eraill a roddwyd i farwolaeth gan Weriniaeth Ffederal yr Almaen.

Roedd Deddf Hamburg Fawr yn tynnu Altona o Wladwriaeth Rydd Prwsia yn 1937 a'i chyfuno (ynghyd a nifer o ddinasoedd eraill) gyda Dinas Rydd a Hanseatig Hamburg yn 1938.

Ar 1 Chwefror 2007 cafodd yr Ortsämter (caeadleoedd) yn Hamburg eu diddymu. Yn Altona roedd caeadleoedd Blankenese, Lurup ac Osdorf wedi bodoli ac roedd ganddynt swyddfeydd lleol. Ar 1 Mawrth 2008 daeth cymdogaeth Schanzenviertel, a oedd wedi cynnwys rhannau o fwrdeistrefi Altona, Eimsbüttel a Hamburg-Mitte, yn chwarter Sternschanze, sydd bellach yn rhan o fwrdeistref Altona yn ei gyfanrwydd.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jewish Encyclopedia: Hamburg
  2. Lowenthal, Marvin (1977), The Memoirs of Glückel of Hameln, New York: Shocken Books, pp. 5–10, ISBN 978-0-8052-0572-5
  3. "Colera", The New York Times, 1871-08-31, https://www.nytimes.com/1871/08/31/archives/cholera-the-disease-in-hamburg-and-altona-germany-ravages-in.html
  4. Verg, Erich; Verg, Martin (2007) (yn de), Das Abenteuer das Hamburg heißt (4th ed.), Hamburg: Ellert&Richter, p. 158, ISBN 978-3-8319-0137-1
  5. "Back to the Axe!", The Time Magazine, 1933-08-14, http://www.time.com/time/magazine/article/0,9171,745905-2,00.html, adalwyd 2008-08-14
  6. Stolpersteine in Hamburg |url=http://87.106.6.17/stolpersteine-hamburg.de/en.php?&LANGUAGE=EN&MAIN_ID=7&BIO_ID=234%7C
  7. Act of the area organisation