Altona, Hamburg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Altona
Black Form White House.jpg
Wappen-Altona.svg
Math bwrdeisdref Hambwrg Edit this on Wikidata
Poblogaeth 261,213 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd 1535 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Hamburg Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd 78.3 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Uwch y môr 34 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Hamburg-Mitte, Eimsbüttel, Pinneberg, Stade Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.55°N 9.933°E Edit this on Wikidata
Gwefan www.hamburg.de/bezirke/altona/ Golygu ar Wicidata

Altona Almaeneg: [ˈaltonaː] (Ynghylch y sain hon gwrando) yw'r fwrdeistref drefol (Bezirk) sydd bellaf i'r gorllewin yn nhalaith ddinesig Hamburg, a'r lan yr afon Elbe yn yr Almaen. O 1640 hyd at 1864 roedd Altona o dan weinyddiaeth brenhiniaeth Denmarc a hwn oedd unig borthladd Denmarc ar gyfer cael mynediad uniongyrchol i Fôr y Gogledd. Roedd Altona yn ddinas annibynnol tan 1937.

Awyrlun o Altona o'r de. Gwelir hefyd geioedd ar yr afon Elbe.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd Altona yn 1535 fel pentref i bysgotwyr yn Holstein-Pinneberg. Daeth o dan reolaeth Ddanaidd yn 1640 fel rhan o'r Holstein-Glückstadt, ac yn 1664 derbyniodd hawliau dinesig gan y Brenin Danaidd Frederik III, a oedd bryd hynny yn teyrnasu fel rhan o undeb personol o dan ddugiaeth Holstein. Altona oedd un o drefi porthladd pwysicaf y frenhiniaeth Ddanaidd. Agorwyd y rheilffordd o Altona i Kiel, rheilffordd Hamburg-Altona–Kiel, yn 1844.

Oherwydd y cyfyngiadau caeth ar y nifer o Iddewon oedd yn cael byw yn Hamburg tan 1864 (ag eithrio'r cyfnod rhwng 1811–15,),[1] datblygodd cymuned Iddewig fawr yn Altona o 1611 ymlaen, pan roddodd Cownt Ernest o Schaumburg a Holstein-Pinneberg hawliau preswyl parhaol i Iddewon Ashcenasig.[2] Roedd aelodau o'r gymuned yn masnachu yn Hamburg ac yn Altona ei hun. Y cyfan sydd ar ôl yn dilyn yr Holocost yn ystod yr Ail Ryfel Byd yw'r mynwentydd Iddewig, ond yn y 17g, 18g a'r 19g, daeth y gymuned yn ganolfan bwysig i fywyd ac ysgolheictod Iddewig. Roedd Holstein-Pinneberg a'r Holsten Danaidd yn ddiweddarach yn rhoi llai o dreth ac yn gosod llai o ofynion sifil ar eu cymuned Iddewig na llywodraeth Hamburg.

Arweiniodd y rhyfeloedd rhwng Denmarc a'r Conffederasiwn Almaenig— Y Rhyfel Schleswig Gyntaf (1848–1851) a'r Ail Ryfel Schleswig (Chwefror – Hydref 1864)—a Chonfensiwn Gastein 1864, at Denmarc yn ildio Dugiaethau Schleswig a Holstein i weinyddiaeth Prwsiaidd a Lauenburg i weinyddiaeth Awstriaidd. Ynghyd a Schleswig-Holstein yn ei chyfanrwydd, daeth Altona yn rhan o ddinas rydd Hamburg yn 1867.

Yn 1871 daeth Hamburg (ynghyd ag Altona) yn rhan o Ymerodraeth yr Almaen. Yn yr un flwyddyn cafodd y ddinas ei tharo gan colera, gydag o leiaf 16 o farwolaethau yn Altona.[3]

Yng nghyfnod y Weimar yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd dinas Altona ei chythryblu gan streiciau llafur mawr ac annhrefn ar y strydoedd. Roedd chwyddiant yn broblem fawr yn yr Almaen. Yn 1923, penderfynodd Max Brauer, maer Altona, y dylai pobl y ddinas gael eu talu yn rhannol gyda thocynnau i'r mesurydd nwy, am nad oedd y tocynnau hyn yn colli eu gwerth gyda chwyddiant.[4] Y digwyddiad mwyaf nodedig yn y cyfnod hwn oedd Sul Gwaedlyd Altona (Almaeneg: Altonaer Blutsonntag) ar Gorffennaf 17, 1932 pan saethwyd nifer o bobl gan yr heddlu yn ystod ardystiad o grwpiau Natsiaidd. Ar ol i'r Natsiaid ddod i rym yn yr Almaen, ac yn dilyn cyrchoedd gan yr heddlu a llys arbennig, cafwyd Bruno Tesch ac eraill yn euog ar Awst 1 1933 a'u dedfrydu i farwolaeth trwy dorri pen gyda bwyell.[5][6] Yn y 1990au, gwyrdrowyd dedfryd a chliriwyd enwau Tesch a'r dynion eraill a roddwyd i farwolaeth gan Weriniaeth Ffederal yr Almaen.

Roedd Deddf Hamburg Fawr yn tynnu Altona o Wladwriaeth Rydd Prwsia yn 1937 a'i chyfuno (ynghyd a nifer o ddinasoedd eraill) gyda Dinas Rydd a Hanseatig Hamburg yn 1938.

Ar 1 Chwefror 2007 cafodd yr Ortsämter (caeadleoedd) yn Hamburg eu diddymu. Yn Altona roedd caeadleoedd Blankenese, Lurup ac Osdorf wedi bodoli ac roedd ganddynt swyddfeydd lleol. Ar 1 Mawrth 2008 daeth cymdogaeth Schanzenviertel, a oedd wedi cynnwys rhannau o fwrdeistrefi Altona, Eimsbüttel a Hamburg-Mitte, yn chwarter Sternschanze, sydd bellach yn rhan o fwrdeistref Altona yn ei gyfanrwydd.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jewish Encyclopedia: Hamburg
  2. Lowenthal, Marvin (1977), The Memoirs of Glückel of Hameln, New York: Shocken Books, pp. 5–10, ISBN 978-0-8052-0572-5
  3. "Colera", The New York Times, 1871-08-31, https://www.nytimes.com/1871/08/31/archives/cholera-the-disease-in-hamburg-and-altona-germany-ravages-in.html
  4. Verg, Erich; Verg, Martin (2007) (yn de), Das Abenteuer das Hamburg heißt (4th ed.), Hamburg: Ellert&Richter, p. 158, ISBN 978-3-8319-0137-1
  5. "Back to the Axe!", The Time Magazine, 1933-08-14, http://www.time.com/time/magazine/article/0,9171,745905-2,00.html, adalwyd 2008-08-14
  6. Stolpersteine in Hamburg |url=http://87.106.6.17/stolpersteine-hamburg.de/en.php?&LANGUAGE=EN&MAIN_ID=7&BIO_ID=234%7C
  7. Act of the area organisation