Alltami

Oddi ar Wicipedia
Alltami
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1822°N 3.0983°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ266656 Edit this on Wikidata
Map

Pentref bychan yng nghymuned Bwcle, Sir y Fflint, Cymru, yw Alltami.[1][2] Fe'i lleolir i'r gogledd-orllewin o dref Fwcle ac i'r gogledd-ddwyrain o'r Wyddgrug. Saif ar ffordd yr A494 sy'n rhedeg o Ellesmere Port i Ddolgellau. Mae nant, Alltami Brook, yn rhedeg trwy'r pentref.

Tirnodau[golygu | golygu cod]

Yn Alltami adeiladwyd un o'r capeli cyntaf y Methodistiaid Cyntefig yng Ngogledd Cymru, sef Bryn Methodist Church. Dechreuodd yr eglwys yn ystod gwersyllgyfarfod haf ym Mryn y Baal ym 1836, dan arweiniad Henry Brining o Gaer. Adeiladwyd eglwys yn Alltami yn 1838, ac fe'i hestynnwyd ddiwedd y degawd dilynol i gynnwys ystafelloedd ysgol. Erbyn 1933 dechreuodd Alltami Brook, sy'n llifo gerllaw, i niweidio sylfeini'r eglwys. Cafodd y broblem ei datrys a gwnaethpwyd gwelliannu ychwanegol dros y blynyddoedd.[3]

Saif Greenbank Farmhouse, adeilad rhestredig Gradd II, dim pell o'r pentref. Mae'r ffermdy yn dyddio i'r 1860au, pan gafodd ei ailadeiladu a'i ailfodelu ynghyd â dwy fferm arall yn yr ardal, Ty'n y Caeau a Rhosychellis (sydd bellach wedi'i ddymchwel).[4]

Mae un dafarn, The Tavern, yn y pentref.[5]

Goleuadau traffig yn Alltami

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 11 Mai 2022
  3. "Bryn Methodist Church, Alltami, Nr. Mold". Myprimitivemethodists.org.uk. Cyrchwyd 25 Ebrill 2016.
  4. "Greenbank Farm Farmhouse, Northop". British Listed Buildings. Cyrchwyd 25 Ebrill 2016.
  5. "Tavern". Viamichelin.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Mai 2016. Cyrchwyd 25 Ebrill 2016.