Alis Ferch Gruffudd a'r Traddodiad Barddol Benywaidd

Oddi ar Wicipedia
Alis Ferch Gruffudd a'r Traddodiad Barddol Benywaidd
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurGwen Saunders Jones
CyhoeddwrGwasg y Bwthyn
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781907424670
GenreAstudiaethau llenyddol Cymraeg

Astudiaeth ar waith bardd benywaidd o'r 16eg ganrif gan Gwen Saunders Jones yw Alis Ferch Gruffudd a'r Traddodiad Barddol Benywaidd a gyhoeddwyd yn 2015 gan Wasg y Bwthyn. Man cyhoeddi: Caernarfon, Cymru.[1]

Cyfrol sy'n bwrw golwg ar waith merch oedd yn barddoni yn yr 16eg ganrif, sef Alis ferch Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan. Dyma un o'r ychydig ferched y ceir eu gwaith barddonol mewn llawysgrifau Cymreig.

Daw Dr Gwen Saunders Jones o Farian-glas, Ynys Môn. Mae'n byw yng Nghaernarfon ac yn gweithio fel cyfieithydd. Enillodd ei gradd gyntaf o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, yn 2007, gan aros yno i gwblhau ei gradd Meistr ar farddoniaeth Gwerful Mechain, a'i Doethuriaeth ar farddoniaeth Alis ferch Gruffudd a phrydyddesau Cymraeg eraill o'r cyfnod modern cynnar.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.