Aled a'r Fedal Aur

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aled a'r Fedal Aur  
Awdur Aled Sion Davies, Lynn Davies
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg
Cyfres Stori Sydyn
Genre(s) Cofiannau Cymraeg
Cyhoeddwr Y Lolfa
Dyddiad cyhoeddi 30 Ionawr 2014
Tudalennau 0
ISBN 9781847718389
Argaeledd Ar gael

Cyfrol gan Aled Sion Davies a Lynn Davies yw Aled a'r Fedal Aur a gyhoeddwyd yn 2014 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Mae'n gyfrol yn y gyfres Stori Sydyn. Stori'r Pencampwr Paralympaidd, Aled Sion Davies yw hi. Enillodd fedal aur am daflu'r ddisgen a medal efydd am daflu'r siot yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012. Yn 21 mlwydd oed roedd yn un o'r athletwyr ieuengaf yn nhîm Prydain ac yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus.

Rhan o adolygiad Trefor Jones[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n sôn am ei uchelgais ac am siom fawr 2013. Esbonia'r dosbarthiadau gwahanol, y dylanwad mae nawdd yn ei gael ar berfformiadau a swyddogaeth y pwyllgor sy'n rheoli holl gampau'r athletwyr anabl.

Disgrifia Aled yr amheuon a'r anawsterau wrth i gyffuriau a'r camddefnydd ohonynt amharu ar degwch y cystadlu. Cyfeiria'n benodol at ei brofiad yn Seland Newydd pan gafodd enillydd y fedal aur ei ddiarddel. Pwysleisia'r rheidrwydd i fod yn ofalus ac yn gyfrifol wrth ystyried cymryd meddyginiaeth o unrhyw fath. Mae'r stori hefyd yn ein tywys i wledydd ar hyd a lled y byd.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.