Al-Balad Radio
Al-Balad Radio | |
![]() | |
Ardal Ddarlledu | Amman |
---|---|
Arwyddair | Llais y Gymuned |
Dyddiad Cychwyn | 2005/2008 |
Pencadlys | Amman |
Perchennog | cymunedol |
Gwefan | http://www.balad.fm/ |
Radio cymunedol yng Ngwlad Iorddonen yw Al-Balad Radio. Mae'n darlledu yn Arabeg yn ardal Amman, prifddinas Gwlad Iorddonen, ar 92.4 FM. Ei arbenigrwydd yw newyddion lleol. Mae'n gwmni di-elw.
Dechreuodd yn y flwyddyn 2000 fel prosiect radio cymunedol AmmanNet dan nawdd UNESCO ac eraill, yn cael ei gyfarwyddo gan y newyddiadurwr Daoud Kuttab.[1] Hwn oedd y radio rhyngrwyd cyntaf yn y byd Arabaidd. Yn 2005, sefydlwyd gwasanaeth radio daearol - y radio annibynnol cyntaf yn hanes y wlad - yn ardal Amman ac yn 2008 newidiwyd enw'r orsaf i Al-Balad Radio.[2]
Yn ogystal i newyddion i'r gymuned, mae Al-Balad Radio yn cynnig amrywiaeth o raglenni gyda'r pwyslais ar ddatblygu cymunedol, galluogi pobl ifanc, ac ymwybyddiaeth o hawliau dynol.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ About Us Archifwyd 2016-01-07 yn y Peiriant Wayback., gwefan AmmanNet.
- ↑ 2.0 2.1 'Radio Al-Balad 92.4'[dolen marw], ar wefan Mediame.com.
Dolen allanol[golygu | golygu cod]
- (Arabeg) Gwefan y radio Archifwyd 2013-08-23 yn y Peiriant Wayback.