Ailgylchu plastig

Oddi ar Wicipedia
Ailgylchu plastig
MathAilgylchu Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.uusiouutiset.fi/25-miljoonalle-suomalaiselle-muovinkerays-kotipihaan/, https://svenska.yle.fi/artikel/2018/09/14/plastinsamling-kan-bli-obligatorisk-2021-helsingforsregionens-miljotjanster Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bin ailgylchu yng Ngwlad Pwyl

Ailgylchu plastig yw'r broses o adfer plastig sgrap neu wastraff ac ailbrosesu'r deunydd i greu cynhyrchion defnyddiol. Gan nad yw'r mwyafrif o blastig yn fioddiraddiadwy, mae ailgylchu yn rhan o ymdrechion byd-eang i leihau plastig yn y ffrwd wastraff, yn enwedig yr oddeutu 8 miliwn tunnell o wastraff plastig sy'n mynd i'r môr bob blwyddyn.

O gymharu ag ailgylchu enillfawr metel, a gwerth isel tebyg gwydr, mae ailgylchu polymerau plastig yn aml yn fwy heriol oherwydd dwysedd isel a gwerth isel. Ceir hefyd llawer o rwystrau technegol i'w goresgyn wrth ailgylchu plastig.

Pan gaiff gwahanol fathau o blastigion eu toddi gyda'i gilydd maent yn dueddol o wahanu, fel olew a dŵr, a setio yn yr haenau hyn. Mae ffiniau'r sylweddau yn achosi gwendidau strwythurol yn y deunydd terfynol, sy'n golygu bod cyfuniadau polymer ond yn ddefnyddiol ar gyfer defnydd cyfyngedig. Mae'r ddau blastig sy'n cael eu cynhyrchu fwyaf, polypropylene a polethylen, yn ymddwyn yn y modd hwn, sy'n cyfyngu'r gallu i'w ailgylchu. Yn ddiweddar, cynigiwyd y defnydd o copolymerau bloc fel "pwythau moleciwlaidd" neu "fflwcs weldio macromoleciwlaidd" wedi'i gynnig er mwyn goresgyn yr anawsterau sy'n gysylltiedig â rhannu sylweddau yn ystod ailgylchu.

Gellir cynyddu'r canran o blastig y gellir ei ailgylchu'n llawn, yn hytrach na'i dorri i lawr neu ei adael yn wastraff, pan fo gweithgynhrychwyr deunyddiau wedi'u pecynnu yn cyfyngu ar gymysgu deunyddiau ecynnu a a chyfyngu ar halogion. Mae'r Gymdeithas Ailgylchwyr Plastigion wedi cyhoeddi "Canllaw Dylunio ar gyfer Ailgylchadwyedd".

Mae'r defnydd o blastigion bioddiaraddadwy yn cynyddu.

Prosesu[golygu | golygu cod]

Cyn ailgylchu, trefnir y rhan fwyaf o blastigion yn ôl eu math resin. Cyn ailgylchu, caiff y rhan fwyaf o blastigion eu trefnu yn ôl math eu resin. Yn y gorffennol, mae adferwyr wedi defnyddio'r cod adnabod resin (RIC), dul o gategoreiddio mathau o bolymerau, a ddatblygwyd gan Gymdeithas y Diwydiant Plastigion im 1988.[angen ffynhonnell] Er enghraifft, mae gan polyethylene terephthalate, a gaiff ei adnabod fel PET, god resin o 1. Nid yw rhan fwyaf o adferwyr yn dibynnu ar y cod adnabod resin erbyn hyn; maen nhw'n defnyddio systemau trefnu awtomatig i adnabod y resin, yn amrywio o drefnu a dewis deunyddiau plastig â llaw i brosesau awtomeiddio mecanyddol sy'n cynnwys shredio, hidlo, arwahanu drwy raddau dwysedd, hynny yw aer, hylif, neu fagnetig, a thechnolegau dosbarthu sbectroffotometrig e.e. UV/VIS, NIR, Laser, ac ati. Caiff rhai cynhyrchion plastig eu gwahanu yn ôl lliw cyn eu hailgylchu. Mae'r darnau hyn wedi'u shredio yna'n destun prosesau i gael gwared ag amhurebau fel labeli papur. Caiff y deunydd hwn ei doddi ac yna'i dynnu allan ar ffurf pelenni a gaiff eu defnyddio i gynhyrchu cynhyrchion eraill

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

"SPI Resin Identification Code - Guide to Correct Use". PlasticsIndustry.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mai 2013. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

"SPI Resin Identification Code - Guide to Correct Use". PlasticsIndustry.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mai 2013. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help) "SPI Resin Identification Code - Guide to Correct Use". PlasticsIndustry.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mai 2013. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]