Neidio i'r cynnwys

Aias Fychan

Oddi ar Wicipedia
Aias Fychan
Enghraifft o:cymeriad chwedlonol Groeg Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0q_q edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Aias Fychan yn rheibio Casandra

Arwr Groegaidd y ceir ei hanes yn yr Iliad gan Homeros ac mewn hanesion eraill yw Aias Fychan neu Aias y Lleiaf (Hen Roeg: Αἴας; Lladin: Aiax), hefyd Ajax. Fe'i gelwir yn Aias Fychan i'w wahaniaethu oddi wrth un arall o'r arwyr Groegaidd yng Nghaerdroea, Aias Fawr. Toedd yn fab i Oileus, brenin Locris.

Wedi cwymp Caerdroea, rheibiodd Aias y broffwydes Cassandra; cymerodd arweinwyr y Groegiaid, Agamemnon, hi yn ordderch wedyn. Enwyd clwb peldroed AFC Ajax o Amsterdam ar ôl yr Aias yma, gan y dywedir ei fod yn redwr arbennig o gyflym.