Afon Voronezh

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Voronezh.

Afon yn Rwsia yw Afon Voronezh (Rwseg: Воро́неж) sy'n llifo drwy Oblast Tambov, Oblast Lipetsk, ac Oblast Voronezh, ac sy'n un o lednentydd Afon Don. Ei hyd yw 342 km gyda basn o 21,600 km². Mae'n rhewi drosodd rhwng dechrau Rhagfyr a diwedd mis Mawrth. Gall llongau dramwyo rhan isaf yr afon. Lleolir dinasoedd Lipetsk a Voronezh ar lan Afon Voronezh. Enwir yr afon ar ôl dinas Voronezh.

Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.