Afon Tay

Oddi ar Wicipedia
Afon Tay
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPerth a Kinross, Stirling Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau56.354648°N 3.291943°W Edit this on Wikidata
TarddiadCoire Laoigh Edit this on Wikidata
AberMoryd Tay Edit this on Wikidata
LlednentyddRiver Tummel, River Earn, Afon Isla, Afon Dochart, Afon Almond, Afon Braan, Afon Lyon Edit this on Wikidata
Dalgylch6,216 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd193 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad170 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddLoch Tay Edit this on Wikidata
Map

Afon Tay (Gaeleg yr Alban: Tatha) yw afon hwyaf yr Alban, 193 km (120 milltir) o hyd. Hi yw afon fwyaf Prydain o ran llif y dŵr, 170 m3 yr eiliad. Mae'n tarddu yn Ucheldiroedd yr Alban ac yn llifo trwy Strathtay a thrwy ganol dinas Perth i gyrraedd y môr ym Moryd Tay ar arfordir dwyreiniol yr Alban, i'r de o ddinas Dundee.

Ceir tarddle'r afon tua 20 milltir o Oban ar arfordir gorllewinol yr Alban, dan yr enw afon Connonish, ac yn nes ymlaen yn afon Fillan. Newidia'r enw eto i afon Dochart cyn iddi lifo i mewn i Loch Tay yn Killin. Dim ond wrth iddi adael Loch Tay y gelwir hi yn afon Tay. Mae'r afon yn enwog am ei physgota eog.

Dalgylch afon Tay.