Loch Tay
Gwedd
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Perth a Kinross, Stirling |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 26.4 km² |
| Cyfesurynnau | 56.5156°N 4.1461°W |
| Hyd | 23 cilometr |
![]() | |
Llyn yn Ucheldiroedd yr Alban yw Loch Tay (Gaeleg yr Alban: Loch Tatha). Mae'n 14 milltir (23 km) o hyd a milltir i filltir a hanner o led, ac yn 150 m o ddyfnder yn y man dyfnaf.
Mae afon Dochart ac afon Lochay yn llifo i mewn i'r llyn, ac afon Tay yn llifo allan. Gerllaw glan ogleddol y llyn mae copa Ben Lawers (1214 m), a cheir crannog ar y llyn ei hun. Y pentrefi mwyaf ar ei lan yw Killin a Kenmore.
