Afon Mamoré
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Bolifia, Brasil |
| Cyfesurynnau | 15.944758°S 64.755883°W, 10.382129°S 65.390282°W |
| Aber | Afon Madeira |
| Llednentydd | Afon Yacuma, Grande River, Afon Guaporé, Afon Apere, Afon Chapare, Afon Isiboro, Mamorecillo River, Afon Ibare, Afon Yata |
| Dalgylch | 595,000 cilometr sgwâr |
| Hyd | 1,930 cilometr |
| Arllwysiad | 11,649 metr ciwbic yr eiliad |
![]() | |
Afon yn Ne America sy'n llifo i mewn i afon Madeira, sy'n un o lednentydd afon Amazonas, yw afon Mamoré. Mae afon Mamoré ac afon Beni yn cyfarfod i'r dwyrain o Nova Mamoré i ffurfio afon Madeira.
Ceir tarddiad afon Mamoré ar lethrau gogleddol y Sierra de Cochabamba, i'r dwyrain o ddinas Cochabamba, Bolifia, dan yr enw afon Chimoré. Ger Puerto Villaroel mae'r afon yma yn uno ag Ichilo, sydd yn fuan wedyn yn ymuno ag Afon Chapare i ffurfio afon Mamoré. Rhyw 20 km yn nes ymlaen, mae'r fwyaf o'i llednentydd, y Río Grande, yn ymuno â hi.

