Afon Foyle
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Donegal, Derry City and Strabane |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 54.82933°N 7.4805°W, 55.06019°N 7.23878°W |
| Tarddiad | Afon Mourne, Afon Finn |
| Aber | Lough Foyle |
| Llednentydd | Afon Mourne, Afon Finn, Afon Camowen |
| Dalgylch | 2,900 cilometr sgwâr |
| Hyd | 129 ±1 cilometr |
![]() | |
Afon yn nhalaith Ulster yng ngogledd-orllewin ynys Iwerddon yw Afon Foyle (Gwyddeleg: An Feabhal).[1] Mae'n llifo o gydlifiad afonydd Finn a Mourne yn nhrefi Lifford yn Swydd Donegal, Gweriniaeth Iwerddon, a Strabane yn Swydd Tyrone, Gogledd Iwerddon. O'r fan hon mae'n llifo i ddinas Derry, lle mae'n gollwng i Lough Foyle ac yna i Gefnfor yr Iwerydd. Mae ganddi hyd o 129 km (80 milltir). Mae'r afon yn gwahanu rhan o Swydd Donegal oddi wrth rannau o Swydd Derry a Swydd Tyrone. Yn draddodiadol, enw yr ardal yn Swydd Donegal sy'n ffinio â glan orllewinol Afon Foyle yw "y Laggan".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
