Afon Cleddau

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Afon Daugleddau)
Jump to navigation Jump to search
Afon Cleddau yn harbwr Aberdaugleddau.

Afon yn ne Sir Benfro yw Afon Cleddau. Mae dwy afon Cleddau: Afon Cleddau Wen yn y gorllewin ac afon Cleddau Ddu yn y dwyrain. Ymunant a'i gilydd i ffurfio aber Daugleddau, sy'n rhoi ei enw i borthladd pwysig Aberdaugleddau (mewn canlyniad cyfeirir at yr afon ei hun fel afon Daugleddau weithiau).

Cleddau Wen[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Afon Cleddau Wen

Ceir dwy ran i Afon Cleddau Wen (ffurf amgen: Cleddy Wen). Tardda'r rhan ddwyreiniol yn Llygad Cleddau ym mhlwyf Llanfair Nant y Gôf, 4 km i'r de-ddwyrain o Abergwaun. Llifa tua'r de-orllewin heibio Scleddau. Tardda'r gangen orllewinol ym Mhenysgwarne ym mhlwyf Llanreithan, a llifa tua'r dwyrain i ymuno a'r gangen arall. Llifa'r Cleddau Wen trwy Gas-blaidd i Hwlffordd, lle ceir effaith y llanw.

Cleddau Ddu[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Afon Cleddau Ddu

Tardda Afon Cleddau Ddu (ffurf amgen: Cleddy Ddu) ar lethrau Mynydd Preselau ym Mlaencleddau ym mhlwyf Mynachlog-ddu, a llifa tua'r de-orllewin heibio Llawhaden. Gwelir effaith o llanw ger Pont Canaston. Ymuna a'r afon Cleddau Wen ym Mhwynt Picton.

Mae aber Daugleddau yn ddwfn ac yn harbwr naturiol da; gall tanceri olew o 300,000 tunnell a mwy ei ddefnyddio. Oherwydd hyn, adeiladwyd nifer o burfeydd olew yma.