Afon Clydach (Abertawe)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Afon Clydach, Abertawe)
Afon Clydach Isaf
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6958°N 3.8992°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Afon Clydach yn cyfeirio at ddwy afon sy'n llifo i mewn i afon Tawe, Afon Clydach Uchaf ac afon Clydach Isaf.

Afon Clydach Isaf yw'r fwyaf o'r ddwy. Mae'n tarddu fel nifer o nentydd ar lethrau Mynydd y Betws a Banc Cwmhalen, ac yn llifo tua'r de trwy warchodfa natur Cwm Clydach, sy'n eiddo i'r RSPB, yna trwy bentref Craig-cefn-parc cyn ymuno ag afon Tawe ger Clydach.

Mae afon Clydach Uchaf yn ymuno ag afon Tawe ger Pontardawe.