Gwas neidr brown

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Aeshna grandis)
Gwas neidr brown
Aeshna grandis
Gwryw A. grandis
Benyw A. grandis
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Teulu: Aeshnidae
Genws: Aeshna
Rhywogaeth: A. grandis
Enw deuenwol
Aeshna grandis
(Linnaeus, 1758)

Gwas y neidr mwy na'r cyffredin ac sy'n perthyn i deulu'r Aeshnidae yw Gwas neidr brown (ll. Gweision neidr brown; Lladin: Aeshna grandis; Saesneg: Brown hawker) sy'n bryfyn sy'n perthyn i Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a'r Mursennod). Mae i'w ganfod yng Nghymru.

Mae'n 73 mm (2.9 mod) o hyd ac yn rhywgogaeth unigryw a hawdd ei hadnabod, hyd yn oed pan fo'n hedfan. Mae'n frown ei liw a'i enw, ac mae ganddo adenydd efydd. Mae gan y gwryw smotiau glas ar gylchrannau 2 a 3 o'i abdomen.

Rhwng Gorffennaf a Medi mae'n hedfan. Mae gan yr oedolyn ifanc resi ar ochr ei thoracs a rhesi hefyd ar ei goesau, sy'n ei wneud yntau'n hawdd ei adnabod.

Tiriogaethau[golygu | golygu cod]

Mae'r Aeshna grandis yn gyffredin yng nghanol a dwyrain Ewrop. Gellir ei ganfod rhwng Iwerddon a Mynyddoedd yr Wral ac ar adegau yn yr Alban a gogledd Sgandinafia a'r Balcanau. Mae hefyd i'w weld yng Nghymru ac mae'n gyffredin drwy Loegr yn enwedig yn y De Ddwyrain.

Pyllau, llynnoedd a chamlesi yw ei gynefin ac mae'n gwarchod ei diriogaeth i'r carn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • "Aeshna grandis". British Dragonfly Society. Cyrchwyd 27 Mai 2011.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: