Adran Wladol yr Unol Daleithiau
(Ailgyfeiriad o Adran Dramor yr Unol Daleithiau)

Mae Adran Wladol yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Department of State) yn adran weithredol ffederal yr Unol Daleithiau sy'n cynghori'r Arlywydd ac sy'n arwain y wlad ar faterion polisi tramor.
Arweinir yr Adran gan yr Ysgrifennydd Gwladol a enwebir gan yr Arlywydd ac a gadarnheir gan y Senedd. Mae hefyd yn aelod o'r Cabinet. Yr Ysgrifennydd Gwladol presennol yw Mike Pompeo, yn ei swydd ers 26 Ebrill 2018.