Addie Waites Hunton
Addie Waites Hunton | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mehefin 1866 Norfolk, Virginia |
Bu farw | 22 Mehefin 1943 |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cofiannydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Priod | William Alphaeus Hunton |
Plant | Eunice Carter, Alphaeus Hunton |
Ffeminist a swffragét Americanaidd oedd Addie Waites Hunton (11 Mehefin 1866 - 22 Mehefin 1943) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros hawliau cyfartal merched ac Affro-Americanwyr. Roedd hefyd yn addysgwraig ac yn awdur.
Yn 1889, Hunton oedd y fenyw ddu gyntaf i raddio o'r Spencerian College of Trade. Bu'n gweithio i'r Gymdeithas Gristnogol Menywod Ifanc (YWCA), gwasanaethodd fel trefnydd cenedlaethol Cymdeithas Genedlaethol y Menywod Lliw (the National Association of Colored Women; NACW) rhwng 1906 a 1910, a bu'n gwasanaethu yn y Fyddin U.S yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd llawer o'i gwaith yn ymwneud ag etholfraint, sef yr hawl i fenywod gael pleidleisio mewn etholiad.[1][2][3][4][5]
Magwraeth[golygu | golygu cod]
Ganwyd Addie D. Waites yn Norfolk, Virginia ar Fehefin 11, 1866 i Jesse ac Adeline Waites.[6] Bu farw ei mam pan oedd Addie yn ifanc iawn, a symudodd Addie i Boston i gael ei magu gan ei modryb, o ochr ei mam.[7] Yn Boston, aeth Hunton i Ysgol Ladin, Boston lle graddiodd gyda diploma ysgol uwchradd. Yna, aeth i Goleg Masnach Spencerian a hi oedd y fenyw ddu gyntaf i raddio yn 1889.
Ar ôl graddio, symudodd Hunton i Normal, Alabama, i addysgu yn y State Normal and Agricultural College, a elwir bellach yn Brifysgol Amaethyddol a Mecanyddol Alabama.
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Yn Efrog Newydd, penodwyd Hunton gan Fwrdd Cenedlaethol yr YWCA ym 1907 yn ysgrifennydd. Roedd yn gyfrifol am drefnu prosiectau ymhlith myfyrwyr croenddu. Yn ogystal, teithiodd drwy'r De a'r Canolbarth i gynnal arolwg ar gyfer YWCA. Mae Hunton yn adnabyddus am ei hymdrechion lles cymdeithasol ymhlith y gymuned ddu. At hynny, recriwtiodd nifer o fenywod du eraill i weithio i'r YWCA, menywod fel Eva del Vakia Bowles ac Elizabeth Ross Haynes.[5]
O 1909 i 1910, symudodd Hunton gyda'i phlant i Ewrop. Roedd ei gŵr yn dioddef o broblemau iechyd ac arhosodd gartref yn yr UD. Tra yn Ewrop, bu'r teulu'n byw yn y Swistir ac yna symudodd i Strasbourg, yr Almaen, lle bu'n astudio yn rhan-amser ym Mhrifysgol Kaiser.[4]
Pan symudodd Hunton a'i phlant yn ôl i America, parhaodd i weithio gyda'r YWCA a dechreuodd ddilyn cyrsiau yng Ngholeg Dinas Efrog Newydd. Ar yr adeg hon, roedd ei gŵr William mewn cyflwr difrifol gyda'r diciâu. Yna symudodd teulu Hunton i Saranac Lake, Efrog Newydd, lle buont tan ei farwolaeth yn 1916.
Aelodaeth[golygu | golygu cod]
Bu'n aelod o Alpha Kappa Alpha am rai blynyddoedd. [8]
Anrhydeddau[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Goodier & Pastorello 2017, t. 126.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.
- ↑ Grwp ethnig: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.
- ↑ 4.0 4.1 "Hunton, Addie Waites (1866-1943) - The Black Past: Remembered and Reclaimed". www.blackpast.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-01-31.
- ↑ 5.0 5.1 Chandler, Susan (2005). "Addie Hunton and the Construction of an African American Female Peace Perspective". Affilia 20 (3): 270–283. doi:10.1177/0886109905277615. https://archive.org/details/sim_affilia_fall-2005_20_3/page/270.
- ↑ Addie Waites Hunton - Oxford Reference. http://www.oxfordreference.com/view/10.1093/oi/authority.20110803095951356.
- ↑ "Addie Waites Hunton - WANMEC". www.toxipedia.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-13. Cyrchwyd 2017-01-31.
- ↑ Galwedigaeth: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.