Abel Thomas
Abel Thomas | |
---|---|
Abel Thomas AS | |
Ganwyd | 1848 |
Bu farw | 23 Gorffennaf 1912 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Gwleidydd a bargyfreithiwr Cymreig oedd Abel Thomas (1848 - 23 Gorffennaf 1912).
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn fab i'r Parch Theophilus Evan Thomas o Trehale, Sir Benfro. Ym 1875, priododd Bessie Polak, merch Samuel Polak dilledydd, bu iddynt mab a dwy ferch. Bu farw Mrs Thomas ym 1890 ychydig wythnosau ar ôl i Abel cael ei ethol i'r Senedd[1]
Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Clifton, Bryste a Phrifysgol Llundain.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Galwyd ef i'r bar yn y Deml Ganol ym 1874 a bu'n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghylchdaith De Cymru ac yn Llundain. Fe'i dyrchafwyd yn Gwnsler y Frenhines ym 1892[2] ac yn feinciwr ym 1900[3]. Bu'n gwasanaethu fel Ynad Heddwch ar fainc Sir Benfro[4].
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Dwyrain Sir Gaerfyrddin o 1890 ei farwolaeth ym 1912.
Ym mis Mai 1892 galwodd cymdeithas Ryddfrydol Llandeilo am bleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn Thomas. Cwyn pobl Llandeilo oedd bod yr AS yn pledio cefnogaeth i'r achos dirwest wrth ymofyn pleidleisiau ond yn fodlon amddiffyn bragwyr a thafarnwyr yn y llysoedd barn. Llwyddodd i fodloni ei feirniaid trwy egluro bod dyletswydd gyfreithiol ganddo i amddiffyn unrhyw gleient, hyd eithaf ei allu, heb adael i'w rhagfarnau personol ymyrryd yn ei waith.[5]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw'n sydyn o drawiad ar y galon yng Ngwesty'r Metropol, Abertawe, lle fu'n aros wrth fynychu brawdlys Morgannwg[6].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "MARWOLAETH MRS ABEL THOMAS - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1890-08-21. Cyrchwyd 2017-11-26.
- ↑ "NEW QUEENS COUNSEL - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1892-08-12. Cyrchwyd 2017-11-26.
- ↑ Nottingham Evening Post 23 Gorffennaf 1912: Death of Mr Able Thomas
- ↑ "MEETING OF THE LIBERAL COUNCIL - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1890-08-02. Cyrchwyd 2017-11-26.
- ↑ "EAST CARMARTHEN LIBERAL ASSOCIATION - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1892-06-17. Cyrchwyd 2017-11-26.
- ↑ Western Gazette 26 Gorffennaf 1912; Death of Mr Abel Thomas KC MP
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Pugh |
Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin 1890 – 1912 |
Olynydd: Josiah Towyn Jones |