A Portuguesa

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
A Portuguesa
Teitl Cymraeg:"Y Portiwgaliaid"
A Portuguesa music sheet (1957 official).gif
Fersiwn 1957

Anthem genedlaethol  Portiwgal
Geiriau Henrique Lopes de Mendonça, 1890
Cerddoriaeth Alfredo Keil, 1890
Mabwysiadwyd 5 Hydref 1910 (de facto)
19 Gorffennaf 1911 (de jure)

Sampl o'r gerddoriaeth

Anthem genedlaethol Portiwgal yw "A Portuguesa" ("Cân Portiwgal"). Cyfansoddwyd yr alaw gan Alfredo Keil a'r geiriau gan Henrique Lopes de Mendonça yn ystod ymchwydd mewn cenedlaetholdeb Portiwgalaidd yn 1890, a achoswyd pan fygythodd Lloegr ei threfedigaethau Affricanaidd. Mabwysiadwyd yr anthem yn Porto, fel ymdeithgan (yn debyg i Wŷr Harlech yng Nghymru) fel curiad martsio traed ei milwyr, a hynny yn 1911, pan anwyd Portiwgal yn Wladwriaeth newydd. Cyn hynny, "O Hino da Carta" oedd yr anthem swyddogol.

Protocol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cenir yr anthem hon o fewn Portiwgal ar achlysuron milwrol a dinesig, pan fo pennaeth y wlad yn cael ei adnabod neu ei anrhydeddu. Cenir hi hefyd mewn cyngherddau neu gyfarfodydd pan fo llywydd y wlad yn ymweld â gwledydd eraill.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]