Neidio i'r cynnwys

A Bigger Splash

Oddi ar Wicipedia
A Bigger Splash
Enghraifft o'r canlynolpaentiad Edit this on Wikidata
CrëwrDavid Hockney Edit this on Wikidata
Deunyddpaent acrylig, cynfas Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1967 Edit this on Wikidata
Genrecelf bop Edit this on Wikidata
LleoliadOrielau Tate, Tate Britain Edit this on Wikidata
PerchennogOrielau Tate Edit this on Wikidata


Peintiad yn yr arddull bop gan yr arlunydd Seisnig David Hockney yw A Bigger Splash a gyflawnwyd yn 1967. Darluniad ydyw o ddŵr yn tasgu mewn pwll nofio, ger tŷ modernaidd yn nhywydd braf Califfornia. Pen sbringfwrdd sydd yn nhu blaen y llun, ac felly'r awgrym ydy bod un yn plymio i'r dŵr sydd wedi achosi'r sblash. Paent acrylig ar gynfas lliain ydy cyfrwng y gwaith, a chyda ffrâm sy'n mesur 2425 x 2439 x 30 mm.[1]

Peintiodd Hockney sawl olygfa debyg yn y cyfnod 1964–71, ac yn y gweithiau hyn ymdrechai'r arlunydd ddarlunio symudiadau'r dŵr a dal eiliad o gynnwrf yn llonydd ar y cynfas, megis ffotograff. Mae cynnwys y peintiad hwn yn nodweddiadol o waith enwocaf Hockney: dŵr, awyr glas, pensaernïaeth a dylunio modern, a phalmwydd. Cafodd Hockney hefyd ei ysbrydoli gan ddarluniau Leonardo da Vinci o donnau a throbyllau. A Bigger Splash yw'r olaf o'i dri pheintiad "sblash"; cwblhaodd The Splash a A Little Splash yn 1966.[2]

Trefnir y mwyafrif o elfennau'r llun – y tŷ a'i ddrysau gwydr, boncyffion y palmwydd, ymyl y pwll nofio, a'r sbringfwrdd – ar ffurf llinellau gwastad a chymesur, sydd yn galluogi'r arsyllydd i ganolbwyntio ar y dŵr. Hockney oedd un o'r arlunwyr cyntaf i ddefnyddio acryligau i beintio lluniau cyfan, gan iddo gredu bod paent acrylig yn gyfrwng gwell er portreadu hinsawdd a thirwedd Califfornia na phaent olew. Defnyddiodd rholer i gwblhau'r mwyafrif o'r llun yn gyflym, a threuliodd mwy na thair wythnos yn peintio'r sblash yn fanwl gyda sawl brws gwahanol.[3]

Prynwyd y peintiad gan y noddwr celf bonheddig Sheridan Dufferin yn 1968, a'i roddi i Orielau Tate yn 1981.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "'A Bigger Splash', David Hockney, 1967", Tate. Adalwyd ar 6 Ionawr 2019.
  2. (Saesneg) Josephine van de Walle, "Modern Classics: David Hockney – A Bigger Splash, 1967", artlead (19 Rhagfyr 2016). Adalwyd ar 6 Ionawr 2019.
  3. (Saesneg) Matthew Sperling, "The pull of Hockney’s pool paintings", Apollo (4 Chwefror 2017). Adalwyd ar 6 Ionawr 2019.