A458

Oddi ar Wicipedia
A458
Mathffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig, Gwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7118°N 2.8793°W Edit this on Wikidata
Hyd86 milltir Edit this on Wikidata
Map

Priffordd yng nghanolbarth Cymru a chanolbarth Lloegr yw'r A458. Mae'n cysylltu Mallwyd yng Ngwynedd a Halesowen, ger Stourbridge.

Mae'r A458 yn gadael yr A470 ym Mallwyd, ac yn dilyn Afon Cleifion tua'r dwyrain am ychydig, yna'n parhau tua'r dwyrain ar hyd Cwm Dugoed, lle lladdwyd Siryf Meirionnydd, y Barwn Lewys ab Owain, neu Lewis Owen, o Gwrt Plas-yn-dre, Dolgellau ar 12 Hydref 1555 gan Wylliaid Cochion Mawddwy.

Yr A458 ger Cyfronydd, Powys.

Mae wedyn yn dilyn Afon Banwy tua'r dwyrain ac yn arwain ymlaen i'r Trallwng. Ychydig ar ôl y Trallwng, mae'n croesi'r ffîn i Loegr, ac yn ymuno a'r briffordd A5 am ychydig ar ffordd osgoi Amwythig, cyn ymwahanu eto a mynd tua'r de-ddwyrain i groesi Afon Hafren yn Bridgnorth. Oddi yno, mae'n parhau tua'r de-ddwyrain i Halesowen.

Trefi a phentrefi ar yr A458[golygu | golygu cod]

Cymru
Lloegr