336 CC

Oddi ar Wicipedia

5g CC - 4g CC - 3g CC
380au CC 370au CC 360au CC 350au CC 340au CC - 330au CC - 320au CC 310au CC 300au CC 290au CC 280au CC
341 CC 340 CC 339 CC 338 CC 337 CC - 336 CC - 335 CC 334 CC 333 CC 332 CC 331 CC


Digwyddiadau[golygu | golygu cod]

  • Yn dilyn priodas Philip II, brenin Macedon ag Eurydice, mae ei fab Alecsander a'i fam Olympias yn ffoi i Epirus am gyfnod, cyn cymodi a Philip a dychwelyd.
  • Ym mhriodas ei ferch, Cleopatra, i Alexander I, brenin Epirus, llofruddir Philip gan aelod o'i warchodlu, Pausanias o Orestis. Lleddir Pausanias yn y fan
  • Olynir Philip gan ei fab Alecsander, fel Alecsander III. Mae mam Alecsander, Olympias, yn gorchymyn lladd Eurydice, ei merch fychan a'i hewythr, y cadfridog Attalus.
  • Alecsander yn gorchymyn dienyddio Amyntas IV.
  • Wedi ei sefydlu ei hun ar yr orsedd, mae Alecsander yn gorfodi dinas Thebai i ildio iddo, yma'n mynd ymlaen i ddinas Corinth, lle penodir ef yn arweinydd y cynghrair yn erbyn Ymerodraeth Persia yn lle ei dad.
  • Yn Ymerodraeth Persia, mae'r brenin Artaxerxes IV yn ceisio dod yn rhydd o ddylanwad y llywodraethwr Bagoas, sy'n ei lofruddio. Mae Bagoas yn rhoi Darius III ar yr orsedd yn ei le.
  • Pan geisia Darius ddod yn rhydd o ddylanwad Bagoas, mae Bagoas yn ceisio ei wenwyno, ond mae Darius yn darganfod y cynllwyn ac yn gorfodi Bagoas i yfed y gwenwyn ei hun.

Genedigaethau[golygu | golygu cod]

Marwolaethau[golygu | golygu cod]