Artaxerxes IV, brenin Persia
Artaxerxes IV, brenin Persia | |
---|---|
Ganwyd | Iran ![]() |
Bu farw | 336 ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines ![]() |
Tad | Artaxerxes III, brenin Persia ![]() |
Mam | Atossa ![]() |
Teulu | Parysatis II ![]() |
Llinach | Brenhinllyn yr Achaemenid ![]() |
Brenin Ymerodraeth Persia rhwng 338 CC a 336 CC oedd Artaxerxes IV, Hen Berseg: Artaxšacā, enw gwreiddiol Arses (bu farw 336 CC).
Arses oedd mab ieuengaf Artaxerxes III, brenin Persia a'i wraig Atossa. Yn 338, bu farw ei dad, yn ôl un fersiwn wedi ei lofruddio gan y rhaglaw Bagoas, a lofruddiodd y rhan fwyaf o'i deulu hefyd. Dewisodd Bagoas roi Arses ar yr orsedd, a chymerodd yr enw Artaxerxes IV.
Bagoas oedd yn llywodraethu mewn gwirionedd, a chynllwyniodd Artaxerxes i'w lofruddio er mwyn cael y grym i'w ddwylo ei hun. Daeth Bagoas i wybod am hyn, a gwenwynodd Artaxerxes, a gosod ei gefnder Darius III ar yr orsedd yn ei le.
Rhagflaenydd : Artaxerxes III |
Brenhinoedd Achaemenid Ymerodraeth Persia Artaxerxes IV |
Olynydd : Darius III |