13 Reasons Why

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
13 Reasons Why
Genre
  • Drama arddegau
  • Dirgelwch
Seiliwyd ar Thirteen Reasons Why gan
Jay Asher
Datblygwyd gan Brian Yorkey
Yn serennu
  • Dylan Minnette
  • Katherine Langford
  • Christian Navarro
  • Alisha Boe
  • Brandon Flynn
  • Justin Prentice
  • Miles Heizer
  • Ross Butler
  • Devin Druid
  • Amy Hargreaves
  • Derek Luke
  • Kate Walsh
Adroddwyd gan Katherine Langford
Cyfansoddwr/wyr Eskmo
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith wreiddiol Saesneg
Nifer o dymhorau 1
Nifer o benodau 13
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd/wyr gweithredol
  • Diana Son
  • Tom McCarthy
  • Joy Gorman Wettels
  • Steve Golin
  • Michael Sugar
  • Selena Gomez
  • Mandy Teefey
  • Kristel Laiblin
Cynhyrchydd/wyr
  • Joseph Incaprera
Golygydd(ion) Leo Trombetta
Lleoliad(au) Califfornia, U.D.A.
Gosodiad camera Camera sengl
Hyd y rhaglen 49–61 munud
Cwmni cynhyrchu
Dosbarthwr
Rhyddhau
Rhwydwaith gwreiddiol Netflix
Fformat y llun 4K ([Ultra HD)[1]
Darlledwyd yn wreiddiol 31 Mawrth 2017 (2017-03-31) – presennol
Dolennau allanol
Gwefan

Cyfres ddrama ar-lein yw 13 Reasons Why (arddullir ar-sgrin fel Th1rteen R3asons Why) sy'n seiliedig ar y nofel a gyhoeddwyd yn 2007 gan Jay Asher ac addaswyd gan Brian Yorkey i Netflix[2]. Mae'r gyfres yn dilyn myfyrwr, Clay Jensen, a'i ffrind Hannah Baker, merch a laddodd ei hun ar ôl dioddef cyfres o amgylchiadau digalon a achoswyd gan rai unigolion yn ei hysgol. Mae bocs o dapiau casét yn manylu y 13 rhesymau am ei hunanladdiad.

Cynhwysa'r tymor cyntaf o 13 o benodau.[3][4] Cynhyrchwyd y gyfres gan July Moon Productions, Kicked to the Curb Productions, Anonymous Content a Paramount Television. Yn wreiddiol roedd yn mynd i fod yn ffilm i'w darlledu gan Universal Pictures gyda Selena Gomez yn actio'r rôl arweiniol, ond mabwysiadwyd y cynhyrchiad gan Netflix yn 2015 gyda Gomez fel cynhyrchyddes weithredol. Rhyddhawyd y tymor cyntaf a'r bennod arbennig, 13 Reasons Why: Beyond the Reasons, ar Netflix ar Fawrth yr 31ain o 2017.

Mae'r gyfres wedi derbyn adolygiadau cadarnhaol o feirniaid a chynulleidfaoedd, sydd wedi canmol ei thestun a chymeriadau, yn enwedig y ddau actor arweiniol, Dylan Minnette a Katherine Langford. Mae hefyd wedi denu dadl oherwydd ei phortread graffig o faterion sensitif sef hunanladdiad a thrais rhywiol, yn ogystal â chynnwys aeddfed arall. Ym mis Mai 2017, cyhoeddwyd y bydd tymor arall yn cael ei ddarlledu yn 2018.[5]

Stori[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Clay Jensen yn cyrraedd ei dŷ ac yn darganfod bocs dirgel o flaen ei dŷ. O'i fewn, mae e'n darganfod saith casetau dau-ochr a recordwyd gan Hannah Baker, ei ffrind a'i gariad diwobrwy, a laddodd ei hun dwy wythnos yn gynharach. Ar y tapiau, mae Hannah yn datgelu dyddiadur llafar torcalonnus, yn manylu'r 13 rhesymu am ei dewis i ladd ei hun. Mae ei chyfarwyddiadau yn glir: un o'r rhesymau am ei hunanladdiad ydy pob person sy'n derbyn y bocs. Ar ôl i bob person wrando ar y tapiau, mae rhaid iddynt basio'r pecyn ymlaen i'r derbynnydd nesaf. Pe bai rhywun beidio â dilyn y cyfarwyddiadau, bydd set o dapiau gwahanol yn cael eu rhyddhau i'r cyhoedd. Cyfeirir pob tâp i berson penodol yn ei hysgol ac yn manylu eu cyfraniad at ei hunanladdiad yn y pen draw. 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]