Sansibar

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Zanzibar (ynys))
Neidio i: llywio, chwilio
Ynys Sansibar

Ynys yng Nghefnfor India oddi ar arfordir dwyreiniol Affrica yw Sansibar[1] neu Unguja. Yn wleidyddol, mae'n rhan o Dansanïa. Gerllaw, mae ynys lai Pemba, a ystyrir yn rhan o Sansibar.

Mae gan yr ynys arwynebedd o 1554 km² a phoblogaeth o tua 1 miliwn. Y brifddinas yw dinas Sansibar. Tyfu sbeis yw'r prif weithgarwch economaidd. Roedd yr Arabiaid wedi ymsefydlu yma erbyn y 10fed ganrif, ac erbyn i Vasco da Gama ymweld yn 1498 roedd yn cynnal masnach lewyrchus ag India. Glaniodd y Portiwgeaid ar yr ynys yn 1503. Yn 1698, daeth i feddiant Swltan Oman. Daeth i feddiant Prydain yn niwedd y 19eg ganrif. Daeth yn annibynnol yn niwedd 1963, ac yn fuan wedyn ymunodd a Thanganica i greu Tansanïa. Mae ganddi fesur helaeth o ymreolaeth o fewn Tansanïa, gyda'i Arlywydd ei hun, dydd hefyd y Ddirpwy-arlywydd Tansanïa.

Hyd nes i Kenya ddod yn annibynnol yn 1963, roedd Mombassa dan reolaeth Sansibar. Wedi hynny, daeth yn rhan o Kenya.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Geiriadur yr Academi, [Zanzibar].