Ysgol Gyfun Traethmelyn

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Gyfun Traethmelyn
Enghraifft o'r canlynolysgol Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata

Ysgol gyfun cyfrwng Saesneg yn Nhraethmelyn, Castell-nedd Port Talbot yw Ysgol Gyfun Traethmelyn (Saesneg: "Sandfields Comprehensive School").

Hanes[golygu | golygu cod]

Ysgol Gyfun Traethmelyn oedd yr ysgol gyfun gyntaf i chael ei hadeiladu ar gyfer y pwrpas pan agorwyd ym 1958. Yn 2000, cydnabyddwyd gan Gymdeithas Ysgolion Uwchradd Cymru i fod yr ysgol oedd wedi gwella'n fwyaf yng Nghymru.[1] Mae hefyd wedi cael ei chydnabod fel yr ysgol yng Ngorllewin Cymru sydd â'r canlyniadau TGAU sydd wedi gwella'n fwyaf.[2]

Roedd 702 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2005, i gymharu â 602 ym 1999. Nid oes unrhyw o'r disgyblion yn siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf, ond dysgir y Gymraeg fel ail-iaith. Er fod lefel addysgol y disgyblion yn is na'r cyfartaledd pan fyddent yn dechrau yn yr ysgol, mae'r ysgol yn llwyddo i wella'r safon rhywfaint.[2]

Cyn-ddisgyblion[golygu | golygu cod]

Mae nifer o chwaraewyr llwyddiannus wedi mynychu'r ysgol gan gynnwys y pêl-droedwyr Allan Martin[3] a Brian Flynn.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.