Ysgol Gyfun Gatholig Sant Richard Gwyn, Bro Morgannwg

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Gyfun Gatholig Sant Richard Gwyn
St Richard Gwyn Catholic High School
Arwyddair Optimum Tantum
Experience in all we do
Math Cyfun, Gwirfoddol
Cyfrwng iaith Saesneg
Crefydd Catholig
Pennaeth Mike Clinch
Lleoliad Lôn Argae, Y Barri, Bro Morgannwg, Cymru, CF63 1BL
AALl Bro Morgannwg
Staff 49 (34 athro)
Disgyblion 548 (2005)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–16
Gwefan http://www.strichardgwyn.co.uk


Ysgol uwchradd gyfun Gatholig, cyfrwng Saesneg yn y Barri, Bro Morgannwg ydy Ysgol Gyfun Gatholig Sant Richard Gwyn (Saesneg: St Richard Gwyn Catholic High School). Caiff yr ysgol ei hariannu yn wirfoddol.

Enwir ar ôl y merthyr Cymreig, Sant Richard Gwyn. Mae'n gwasanaethu bechgyn a merched rhwng 11 ac 16 oed, a bydd disgyblion sydd eisiau mynychu chweched ddosbarth fel rheol yn mynd ymlaen i Coleg Chweched Ddosbarth Gatholig Dewi Sant.

Mae'r ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol yn cynnwys Ysgol Gynradd Sant Helen yn y Barri, ac Ysgol Gynradd Sant Joseph, Penarth.

Cysegrwyd yr ysgol i Sant Cadoc[2] tan i'r enw gael ei newid ym 1989. Symudodd yr ysgol hefyd o Coldbrook Road, Dinas Powys i Lôn Argae, y Barri.

Roedd record o 548 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2005, a disgwylwyd i'r nifer hwn gynnyddu ymhellach gan fod mwy o alw wedi bod na sydd yna o lefydd ers 2000.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.