Ynys Bathurst

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Ynys Bathurst

Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Bathurst. Mae'n un o Ynysoedd Queen Elizabeth, yn ne-ddwyrain yr ynysoedd hyn. Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut.

Mae'n ynys fawr, gydag arwynebedd o 16,042 km², ond nid oes poblogaeth barhaol arni. Roedd pobl Thule yn byw yma am gyfnod o tua 1000 O.C. ymlaen, yn ystod cyfnod o hinsawdd gynhesach. Yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd yr ynys oedd gwŷr Syr William Edward Parry yn 1819. Enwodd hi ar ôl Robert Dundas, 2il feicownt Bathurst.

Ynys Bathurst