Ynni geothermol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pwerdy sy'n troi dŵr poeth a stem naturiol y Ddaear yn egni trydanol.

Gwres, neu bŵer wedi'i dynnu o storfa wres y Ddaear ydy ynni geothermal. Geo ydy'r gair Groeg am y Ddaear a thermos ydy'r gair am wres. Mae'r gwres hwn yn deillio o'r amser pan ffurfiwyd y Ddaear yn gyntaf filoedd o flynyddoedd yn ôl, oherwydd dadfeilio ymbelydrol rhai mwynau, gweithgarwch llosgfynyddoedd ac oherwydd egni solar yr haul wedi'i ddal yng nghrwst y blaned.

Weithiau mae'r pŵer hwn yn dod i'r wyneb: mewn llefydd fel Ynys yr Iâ er enghraifft. Arferid defnyddio'r stem yma i folchi gan bobl mor bell yn ôl a Hen Oes y Cerrig ac yna gan y Rhufeiniaid. Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae ynni neu bŵer geothermal yn cael ei gysylltu fwy fwy gyda dull o gynhesu adeiladau a gyda dull o droi'r stem yn drydan drwy ddefnyddio twrbein. Credir fod oddeutu 10,715 megawatt (MW) o drydan yn cael ei gynhyrchu led led y byd, gan 24 gwlad. Yn ychwanegu at hyn, mae 28 gigawatt o wres uniongyrchol yn ei le i gynhesu adeiladau ayb.[1]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]