Y Geltaidd

Oddi ar Wicipedia
Y Geltaidd

Cymdeithas chwaraeon Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yw'r Geltaidd. Cafodd ei sefydlu'n 1889 fel modd i fyfyrwyr y dref cymdeithasu gan esblygu mewn i gymdeithas chwaraeon unwaith sefydlwyd UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth).[1]

Yn 2017 roedd gan y Geltaidd dimau pêl-droed a rygbi, dynion a merched, tîm pêl-rwyd, sboncen a chriced. Mae'r gymdeithas hefyd yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol, gan gynnwys tripiau i gemau ryngwladol Cymru. Mae'r aelodau'r gymdeithas yn gwneud llawer o waith gwirfoddol yn lleol, yn enwedig gwirfoddoli i hyfforddi gyda'r Urdd.

Prif noddwyr y gymdeithas a chartref ysbrydol nifer o'r timau chwaraeon yw tafarn Yr Hen Lew Du.

Clwb Rygbi Dynion Y Geltaidd[golygu | golygu cod]

Un o brif dimau'r Geltaidd yw'r Clwb Rygbi sy'n chwarae gemau cyfeillgar yr ardal leol a thimau prifysgolion gan nad ydym yn gysylltiedig gydag Undeb Rygbi Cymru eto. Mae sawl cyn-chwaraewr dawnus wedi chwarae gan gynnwys y chwaraewr rhyngwladol Wyn Jones. Cystadlir Y Geltaidd yng nghamp 7-pob-ochr ond uchafbwynt y flwyddyn yw'r Farsiti Cymraeg yn erbyn GymGym Caerdydd a chynhelir ym Mharc yr Arfau. Cynhaliwyd y gêm gyntaf yn 2014 lle trechodd Y Geltaidd Caerdydd gan 17-6.[2]

Dyddiad Sgôr Terfynol Lleoliad
17/03/2017 Y Geltaidd 26 - 8 Caerdydd Parc yr Arfau
27/04/2018 Y Geltaidd 17 - 29 Caerdydd Parc yr Arfary

[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://twitter.com/YGeltaidd
  2. "Y Geltaidd yn drech na'r GymGym". Golwg 360. 17/03/14. Check date values in: |date= (help)
  3. "Y Geltaidd yn cipio'r gwpan". Y Gair Rhydd.