Y Fro Dywyll

Oddi ar Wicipedia
Y Fro Dywyll
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJerry Hunter
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi21/11/2014
ArgaeleddAr gael
ISBN9781784610098
GenreFfuglen

Nofel hanesyddol gan Jerry Hunter yw Y Fro Dywyll a gyhoeddwyd yn 2014 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Dyma nofel hanesyddol gyffrous sy'n symud o Gymru i feysydd y Rhyfeloedd Cartref yn Lloegr ac i goedwigoedd gogledd America, wedi'i gosod ym merw un o'r cyfnodau mwyaf cythryblus yn hanes ynysoedd Prydain, yn wleidyddol ac yn grefyddol. Dyma nofel sy'n dangos bod sawl math o dywyllwch i'w gael yn ystod taith bywyd. Cyrhaeddodd y llyfr restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015.[2]

Mae Jerry Hunter yn awdur profiadol ac enillydd dwy wobr lenyddol fawr – enillodd y nofel Gwenddydd Y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2010. Enillodd y gwaith academaidd Llwch Cenhedloedd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2004.Cyhoeddodd ddwy nofel ar gyfer oedolion a phum llyfr academaidd. Yn enedigol o Cincinnati, Ohio, UDA, mae Jerry Hunter yn Athro yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Mae hefyd wedi darlithio ym Mhrifysgol Harvard a Phrifysgol Caerdydd.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017
  2. Karen Price (1 Mai 2015). "Wales Book of the Year 2015: Musician Gruff Rhys among the 18 authors to make the shortlist". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Chwefror 2022.