Y Faner Goch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Symbol rhyngwladol o Sosialaeth a Chomiwnyddiaeth yw'r faner goch a genir ar ddiwedd cynhadledd y Blaid Lafur yng ngwledydd Prydain.[1][2] Cysylltir y faner â gwleidyddiaeth yr adain chwith ers Chwyldro Ffrainc.[3] Codwyd dros y dosbarth gweithiol am y tro cyntaf yn hanes Prydain ym Merthyr Tudful, yn ystod gwrthryfel 1831 pan liwiwyd dwy faner mewn gwaed llo.[4]

Alternative text
Y faner goch â blwyddyn gwrthryfel Merthyr arni. Islaw mae baner weriniaethol Cymru yn hedfan.

Yr anthem[golygu]

O'r symbol daw enw'r gân ddosbarth gweithiol Y Faner Goch (The Red Flag) a ysgrifennwyd gan y Gwyddel Jim Connell yn 1889. Ysgrifennwyd y geiriau Cymraeg gan y bardd Niclas y Glais, a ddechreua:

Mae baner gwerin yn y nen
A'i phlygion tanllyd uwch ein pen;
O'r gwan a sathrwyd o dan draed
Y daeth i'w phlygion liw y gwaed.
Cytgan:
Mae'r Faner Goch yn fflam o dân
Yn chwifio yn yr awyr lân;
Er brad y stanc a nos y gell
Cyhoedda'r faner ddyddiau gwell.

Cyfeiriadau[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: