Wilsoniaeth

Oddi ar Wicipedia

Safbwynt ideolegol ar bolisi tramor sy'n gysylltiedig â syniadau Woodrow Wilson, Arlywydd yr Unol Daleithiau o 1913 i 1921, yw Wilsoniaeth. Amlinellodd Wilson ei agwedd yn araith y Pedwar Pwynt ar Ddeg a draddododd i'r Gyngres ar 8 Ionawr 1918, gyda gobeithion am heddwch bydol yn y bôn. Mae Wilsoniaeth yn hybu hunanbenderfyniaeth i grwpiau ethnig, democratiaeth, y farchnad rydd, gwrth-imperialaeth, gwrth-ynysiaeth, a sefydliadau rhyngwladol. Roedd Wilson yn elfennol wrth sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd, rhagflaenydd y Cenhedloedd Unedig, ond oherwydd i'r Gyngres gwrthod Cytundeb Versailles ni ymunodd yr Unol Daleithiau â'r Gynghrair.

Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.