Wilfred Owen
Oddi ar Wicipedia
Bardd yn yr iaith Saesneg oedd Wilfred Edward Salter Owen, MC (18 Mawrth, 1893 – 4 Tachwedd, 1918).
Cafodd ei eni yng Nghroesoswallt ac roedd ei ewythr Edward Shaw Owen wedi chwarae pêl-droed dros Gymru. Yn ôl yr hanesydd Hafina Clwyd yn ei chyfrol 'Rhywbeth Bob Dydd', arferai Wilfred fynd ar ei wyliau i fferm Glan Clwyd, Rhewl ger Rhuthun. Dyma rai o gerddi'r bardd: "Dulce et Decorum Est", "Insensibility", "Anthem for Doomed Youth", "Futility" a "Strange Meeting".
Un o gyfeillion y beirdd Siegfried Sassoon a Robert Graves oedd ef.
Bu Owen farw ym Mrwydr y Sambre un wythnos cyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Llyfryddiaeth[golygu]
- 'Rhywbeth Bob Dydd' gan Hafina Clwyd; cyhoeddwyd Rhagfyr 2008.