Weird Tales
Cylchgrawn pwlp Americanaidd yw Weird Tales a gafodd ei gyhoeddi gan sawl cwmni, gan gychwyn gyda Rural Publications yn 1923, ac a gyhoeddir o hyd heddiw. Daeth yn enwog am ei straeon arswyd, ffantasi, a ffuglen wyddonol.
Mae hanes cyhoeddi Weird Tales yn hir a chymhleth. Y golygydd cyntaf oedd Edwin Baird pan gyhoeddwyd y cylchgrawn gan Rural Publications (1923-1924). Daeth Henneberger a Kline yn olygyddion gyda Chyfrol. 4, rhif. 2, (Mai 1924). Prynwyd yr hawlfraint gan Popular Fiction a gyhoeddodd y cylchgrawn o 1924 hyd 1938. Yn 1938 cymerwyd y cylchgrawn drosodd eto a sefydlu cyhoeddwyr Weird Tales, Inc. (1938-54). Dyma "oes aur" y cylchgrawn efallai. Yn 1973, ar ôl i'r hawlfraint newid dwylo sawl gwaith ac ailgyhoeddi cyfrolau cynnar gan sawl gwmni, dechreuodd Renown Publications gyfres newydd o Weird Tales gyda Sam Moskowitz yn olygydd. Mae sawl fersiwn o'r cylchgrawn wedi gweld golau'r dydd ers hynny.