Wedi'r Ŵyl

Oddi ar Wicipedia

Cerdd Gymraeg gan Ceri Wyn Jones (ganed 1967) am y Nadolig yw "Wedi'r Ŵyl". Cywydd ydy mesur y gerdd. Fe'i cynhwysir yn y flodeugerdd Sbectol Inc (2001) ac yn Dauwynebog [1]

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Ceisio pigo ein cydwybod ar adeg Gŵyl y Geni a wna Ceri Wyn Jones yn y gerdd hon. Egyr y gerdd wrth iddo ddatgan y byddwn heno, ru'n fath â llynedd, yn anghofio'n sydyn iawn am eni'r Iesu ac yn tynnu ein holl addurniadau i lawr gan roi "gŵyl y byw yn ôl i'w bedd". Buan iawn yr anghofiwn am holl reswm y dathlu, ac nad ydy crefydd yn bwysig i ni bellach. Byddwn yn "[c]loi doli'r babi bach" (sef y ddoli a ddefnyddiwn i gynrychioli Iesu yn ystod y cyfnod hwn) ac yn ei lapio mewn hen gadach.

Sonir wedyn mai i'r atig yn y tŷ y caiff ei mynd ac y rhown "disgleirdeb ei wyneb" ar lawr yng nghanol yr holl lwch a'i annibendod. "Doli o eiddilwch" yw'r Iesu erbyn hyn a gellir awgrymu yma bod y ddoli wedi heneiddio gan fynd yn eiddil oherwydd iddi gael ei defnyddio cymaint—un Nadolig ar ôl y llall.

Â'r bardd ymlaen i ddatgan bod y ddoli bellach yn "alltud", sef wedi ei rhoi heibio yn ei chrud, ac mai prin iawn yw'r bobl sydd yn cofio amdani. "Rhith o gorff" ydyw a "gwyrth" sydd wedi ei chaethiwo am byth. Dyma gynrychioli meddyliau pobl am Iesu Grist.

Cawn ein hatgoffa eto yn y cwpled olaf ein bod ni wedi anghofio am y babi bach hwn yng nghanol rhialtwch y dathlu. Er bod ein byd a'n technoleg wedi symud ymlaen, rydym dal i ymddwyn yn annerbynniol adeg y Nadolig. Mae holl bwrpas y Nadolig wedi ei anghofio.

Arddull[golygu | golygu cod]

Mae gwrthgyferbyniadau yn digwydd trwy gydol y gerdd hon ac mae'r ddeuoliaeth a geir yma yn hynod effeithiol. Gwrthgyferbynnu amser a wna'r bardd ar gychwyn y gerdd: "Heno fe rown fel llynedd". Gwrthgyferbyniad ydyw rhwng y presennol a'r gorffennol. Mae'r hyn a ddigwyddodd dro ar ôl tro yn y gorffennol yn digwydd heno eto. Cawn wrthgyferbyniad rhwng y byw a'r marw yn yr ail linell, "ŵyl y byw yn ôl i'w bedd", gall gyfeirio at y ffaith i Iesu Grist gael ei eni ar Ddydd Nadolig ond ei fod bellach wedi marw. Gall hefyd olygu ein bod ni ar ôl yr holl ddathlu a'r hwyl yn claddu'r ŵyl ac yn anghofio popeth amdani tan y flwyddyn nesaf.

Ceir gwrthgyferbyniad arall rhwng y tywyllwch a'r goleuni:

"ac i'r atig rhoi eto
ddisgleirdeb ei wyneb o"

Rydym i gyd yn ymwybydol mai tywyll iawn yn pob atig ar y cyfan ac mae hyn yn gwrthgyferbynnu'n effeithiol â wyneb disglair y babi bach. Dylai ei ddyfodiad i'r byd ein llonni a goleuo ein bywydau ond ei guddio mewn tywyllwch a wnawn ni. Cawn eto wrthgyferbyniad rhwng y goleuni a'r tywyllwch yng nghwpled olaf y gerdd:

"ac ogof ein hangof ni
ni wêl heno'i oleuni."

Gwelwn un gwrthgyferbyniad arall yn y gerdd hon ac hwnnw rhwng "crud" ac "alltudiaeth". Mae'r gair crud fel arfer yn rhoi teimlad cariadus, cysurus i ni. Caiff pob gofal a maldod ei roi i faban bach mewn crud. Er hyn, crud ei alltudiaeth a gawn ni yma ac mae'r gair alltudiaeth yn air a gysylltir â chasineb. Nid oes neb eisiau adnabod person a alltudir, sy'n cael ei yrru o gymdeithas.

Prif drosiad y gerdd yw "doli'r babi bach"—yma mae'r bardd yn datgan mai doli yw Iesu Grist erbyn hyn. Dyma sut y cofiwn ni am Iesu am rai wythnosau adeg y Nadolig. Ymhelaetha'r bardd ar y trosiad yn y llinell "mae'n rhith o gorff, mae'n wyrth gaeth", disgrifiad effeithiol o Iesu am mai rhith yw ei gorff erbyn hyn. Ni chofiwn amdano fel person go iawn. Rhaid i ni gofio yma bod genedigaeth Crist ei hun yn wyrth a chofiwn am yr holl wyrthiau a gyflawnodd ef yn ystod ei fywyd. Er hyn, dywed Ceri Wyn Jones mai "gwyrth gaeth" yw heddiw. Rydym wedi cloi ein holl wybodaeth a'n hatgofion amdano heibio tan y flwyddyn nesaf. Yn y llinell olaf ond un, "ac ogof ein hangof ni", geilw Ceri Wyn Jones ein cof ni yn ogof. Cofiwn mai tywyllwch a geir mewn ogof fel arfer sy'n dangos nad ydym ni yn, nac o bosib am, gofio Iesu Grist. Hefyd cofier am y math o bobl a arferai fyw mewn ogofâu: pobl wyllt, farbaraidd. Ai cyfeirio y mae'r bardd at holl rialtwch ein Nadolig ni heddiw? Mae'n ddigon hawdd mwynhau ein hunain ond rhaid cofio hefyd.

Gan mai cywydd yw'r gerdd hon gwelwn gynghanedd ym mhob llinell. Dawn y bardd hwn yw gwneud i'r gynghanedd lifo'n naturiol o un llinell i'r llall.

Neges ac agwedd y bardd[golygu | golygu cod]

Cawn neges glir yn y gerdd hon: mae angen i ni gofio gwir ystyr y Nadolig pan rydym yn dathlu'r ŵyl bob blwyddyn. Yna, pan aiff heibio dylem gofio o hyd am fywyd Iesu Grist ac am yr aberth a wnaeth drosom trwy farw ar y groes, ac nid ei gau o'r neilltu yn yr atig. Teimla Ceri Wyn Jones ein bod fel Cristnogion wedi anghofio am fywyd Iesu Grist. Mae'n ddigon hawdd i ni ddathlu ei enedigaeth bob Nadolig ond rydym yn hawdd yn anghofio holl reswm y dathlu. Ceisia bigo ein cydwybod trwy gydol y gerdd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Dauwynebog". Y Lolfa. Cyrchwyd 17 Hydref 2023.