Vilmos Huszár

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Vilmos Huszár

Peintiwr a dyluniwr o Hwngari oedd Vilmos Huszár (1884, Bwdapest, Hwngari - 1960, Hierden, Yr Iseldiroedd). Adnabyddier ef orau am fod yn un o sefydlwyr symudiad arlunio'r Iseldiroedd, De Stijl.

Ymfudodd i'r Iseldiroedd yn 1905, gan fyw yn Voorburg gyntaf, dylanwadwyd gan arlunwaith Ciwbiaeth a Dyfodiaeth. Cyfarfoddod nifer o arlunwyr dylanwadol megis Piet Mondrian a Theo van Doesburg, y ddau yn ganolig yn sefydliad symudiad De Stijl gyda Huszár yn 1917. Cyd-sefydlodd gylchgrawn De Stijl yn ogystal, a dyluniodd glawr y rhifyn cyntaf.

Yn 1918 dyluniodd gynllun lliw mewnol ar gyfer lloft Tŷ Bruynzeel yn Voorburg. Rhwng 1920 a 1921 cydweithiodd gyda Piet Zwart ar ddyluniadau dodrefn. Gadawodd y grŵp De Stijl yn 1923 a chyd-weithiodd gyda Gerrit Rietveld ar arddangosfa mewnol ar gyfer Arddangosfa Alrunio Berlin Fwyaf. Rhwng 1925, Huszár canolbwyntiodd ar ddylunio graffeg a phaentio.

Yn 1926 creodd hunaniaeth gweledol cyflawn ar gyfer cwmni sigaret Miss Blanche Virginia, a gynhwysodd pecynnu, hysbysebu, a deunudd arddangos man gwethiant. Tynnodd y gysyniad elfennau o'r lluniau a oedd yn gysylltiedig â "Merched Newydd", neu Flappers, a oedd yn dechrau ymddangos yn yr 1920au. Cafodd y Flappers eu canfod fel meched ifanc, sengl, dinesig, a chyflogedig, gyda syniadau annibynol a diystyrdod arbennig tuag at awdurdod ac arferion cymdeithasol. Cafodd ysmygu sigaret ei gysylltu â'r annibyniaeth newydd yma.

Ni wyddwn leoliad y rhanfwyad o waith Huszár, mae nifer o'i beintiadau a'i gerflyniau yn ymwybod i ni oherwydd ffotographau a welwyd yng nghylchgrawn De Stijl, neu o ffotograffau'r arluniwr ei hun. MAe'r gweithiau sydd wedi mynd ar goll yn cynnwys y Dancing mechanical doll, teclyn a allai ymdopi nifer o safiadau a ddefnyddwyd yng nghynhadleoedd cynnar Dada yn y 1920au cynnar.

Bu farw Huszár yn Hierden, yn 1960. Rhwng 8 Mawrth a 19 Mai 1985, delwyd arddangosfe adolygol mawr ar gyfer gwaith Huszár yn y Gemeentemuseum yn Y Hague.

Dolenni allanol[golygu]