Twm Cetyn

Oddi ar Wicipedia
Twm Cetyn
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata

Band o Flaenau Ffestiniog oedd Twm Cetyn.

Yr aelodau oedd:

  • Marc Williams, llais;[1]
  • Dewi Euron Griffiths ar y gitâr;[2]
  • Pôl Williams ar y bâs;
  • Glyn Evans ar y drymiau;

-ac unrhyw un arall oedd ar gael ar y noson, fel Llion Gerallt, Daniel Jones, ac Edwin Humphreys.

Roedd y tri cynta' yn gweithio yn atomfa Trawfynydd ar y pryd, a'r ola' yn ffermio a gwerthu teiars.

Y tro cynta iddyn nhw chwarae'n gyhoeddus oedd yn nhafarn Y Wynnes, Blaenau Ffestiniog ar y 26 Gorffennaf 1991, a'r olaf yn Eisteddfod Ryng-gol Bangor (Neuadd JMJ) 1993.

Ymhlith uchafbwyntiau'r grwp mae: sesiwn pedair cân i raglen Ian Gill ar Radio Cymru oddeutu 1991, chwarae teirgwaith mewn diwrnod yn Eisteddfod yr Wyddgrug; ac ymddangos ar Fideo 9 efo'u cân 'Cwm Cynfal' yn Hydref 1992.

Sesiwn Radio Cymru[golygu | golygu cod]

Wedi'i recordio yn Ionawr 1991 yn Stiwdio Les, talwyd am yr amser stiwdio efo grant o £150 gan yr Ymddiriedolaeth Bop Gymraeg (a sefydlwyd gan gyn-aelodau'r grŵp Doctor). Y bwriad yn wreiddiol oedd rhyddhau'r caneuon ar dâp, ond mi gafodd y band wahoddiad i gyflwyno'r caneuon ar raglen Ian Gill, a chawson nhw mo'u cyhoeddi am bron i chwarter canrif. Y caneuon oedd:

  • 'Geiriau'[2]
  • 'Welais i ti ddoe'
  • 'Melys dy wên'
  • 'Llys Darfil'.

Ar ôl blynyddoedd o drio cael y tâp digidol yn ôl gan y BBC, mi gafodd un o'u peirianwyr hyd iddo ar hap mewn storfa yn Ebrill 2014. Mae tair o'r caneuon sesiwn ar gael ar Soundcloud.

Aeth Twmcet yn ôl i stiwdio Les ym mis Mai 1992 i recordio dwy gân newydd:

  • 'Cwm Cynfal'
  • 'Yn y Gwynt'

ac i Stiwdio Sain i recordio 'Mynd yn ôl i Flaenau Ffestiniog' efo Geraint Lovgreen, ond heblaw am 'Cwm Cynfal' ar Fideo 9, ni welodd y rhain olau dydd.

Ail-ffurfio[golygu | golygu cod]

Pedair blynedd ar ddeg ar ôl rhoi'r gorau iddi, perfformiodd Twm Cetyn unwaith eto mewn gig arbennig yn haf 2007 i ddathlu bod Gŵyl Car Gwyllt, Blaenau Ffestiniog, yn ddeg oed. Yno hefyd oedd nifer o grwpiau eraill Stiniog fel y Mistêcs, Vates, Estella, a'r Anweledig. Disgrifiwyd y noson gan Dewi Prysor, fel "un o'r gigs gorau welodd Blaenau erioed[3]".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. curiad.org; adalwyd 7 Mai 2017.
  2. 2.0 2.1 soundcloud.com; adalwyd 7 Mai 2017.
  3. "Gwyl yr Haul", erthygl gan Dewi Prysor, Llafar Bro, Gorffennaf 2007 (rhifyn 353).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]