Geraint Løvgreen a'r Enw Da

Oddi ar Wicipedia
Geraint Løvgreen a'r Enw Da
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Geraint Lovgreen; Geltaidd 100, Aberystwyth, 1985.

Band Cymraeg ydy Geraint Løvgreen a'r Enw Da, a ffurfiodd yn 1981.

Geraint Lovgreen a'r Enw Da - Clang Clwyd, Awst 1985

Synau hapus adran bres yr Enw Da a geiriau dychanol y prif ganwr yw dwy elfen unigryw'r grŵp, gydag ychydig o faledi mwy difrifol, yn cynnwys 'Nid Llwynog oedd yr Haul', a enillodd wobr Cân i Gymru yn 1982 i Geraint Lovgreen fel cyfansoddwr, gyda geiriau gan y Prifardd Myrddin ap Dafydd. Yn chwarae'r bas yn y grŵp roedd Prifardd arall, Iwan Llwyd, oedd hefyd wedi cyfansoddi nifer o'u caneuon mwy barddonol eu naws.

Mae dylanwadau grwpiau a cherddoriaeth yr 80au i'w clywed yn eu sain; ac fel ffasiwn yr 80au, dyma grŵp sydd yn cael cyfnodau o boblogrwydd mawr o dro i dro, yn enwedig fel band byw - gyda seid-lein arbennig yn chwarae mewn priodasau.

Gyda chaneuon crafog, doniol fel 'Dwi'm Isio Mynd i Sir Fôn', a 'Dwi'n Cael Fy Stalkio Gan Siân Lloyd', mae hiwmor yn elfen allweddol yn eu caneuon a'u perfformiadau byw.

Rhyddhaodd Geraint Lovgreen a'r Enw Da yr albwm Busnes Anorffenedig ar label Sain yn 2008.

Aelodau[golygu | golygu cod]

Disgograffi[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Recordiau Sain; adalwyd 01/06/2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-18. Cyrchwyd 2012-06-01.

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato