Tramffordd Pumlumon a Hafan

Oddi ar Wicipedia

Adeiladwyd y lein reilffordd Tramffordd Pumlumon a Hafan (Saesneg: Plynlimon and Hafan Tramway) 7 milltir o hyd[1] ym 1897 i wasanaethu pyllau plwm Bwlch Glas a chwareli yn ymyl Hafan.[2] Caewyd y lein ar ôl 3 blynedd. Gobeithiwyd adeiladu rheilffordd o'r pyllau a chwareli at y môr yn ymyl Ynyslas, ond gwrthodwyd caniatád gan Reilffordd y Cambrian rhag croesi eu lein rhwng Machynlleth ac Aberystwyth. Roedd yn rhaid i'r tramffordd fynd i Lanfihangel a throsglwyddo nwyddau i Reilffordd y Cambrian. Roedd seidins i'r gogledd o orsaf reilffordd Llandre[1].

Dechreuodd gwasanaeth i deithwyr ar 28 Mawrth 1898, gan redeg ar dydd Llun yn unig ac yn cysylltu â gwasanaeth y Cambrian i Aberystwyrh ar ddiwrnod y farchnad.[3]

Locomotifau[golygu | golygu cod]

Roedd gan y gwmni 3 locomotif:-

Victoria[golygu | golygu cod]

Locomotif 0-4-0 efo boeler unionsyth a adeiladwyd gan John Slee a Chwmni yn Warrington. Daeth i'r tramffordd ar 12 Mai, 1897. Disodlwyd hwn gan 'Talybont'.

Talybont[golygu | golygu cod]

Locomotif 2-4-0T a adeiladwyd gan Gwmni Bagnall yn wreiddiol ar gyfer cwsmer ym Mrasil ond canslwyd ei archeb, felly aeth y locomotif i Dramffordd Pumlumon a Hafan. Gweithiodd o Lanfihangel i waelod yr inclein yn Hafan.

Hafan[golygu | golygu cod]

Locomotif 0-4-0ST Bagnall a weithiodd yn y chwarel uwchben yr inclein. Ailbrynwyd gan Bagnall ym 1901 a gweithiodd ar waith adeiladu Cronfa Ddŵr Walshaw Dene, Halifax, ac erbyn 1920 roedd ym meddiant Cwmni Coed Bedley yn Nairn, Yr Alban.

Cerbydau[golygu | golygu cod]

Roedd gan y dramffordd un cerbyd. Mae copi ohono ar Reilffordd Ager Launceston erbyn hyn. Aeth rhai o'r wageni i Reilffordd Dyffryn Rheidol ac maent wedi goroesi hyd at heddiw.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Gwefan Coflein[dolen marw]
  2. "Gwefan yr Amgueddfa Cledrau cul, Tywyn". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-08-31.
  3. 3.0 3.1 Gwefan Grace's Guide