Tonari no Totoro
Oddi ar Wicipedia
Ffilm animeiddiedig Japaneaidd gan Hayao Miyazaki yw Tonari no Totoro (1988). Mae'r ffilm yn dilyn dwy ferch athro a'u perthynas ag ysbryd cyfeillgar mewn ardal wledig a hynny ar ôl rhyfel yn Siapan. Mae'r ffilm wedi ennill y wobr Anime Animage Grand Prix ym 1988. Cafodd y ffilm ei rhyddhau yn wreiddiol yn yr Unol Daleithiau ar fideo (fformat VHS) gyda'r teitl Fy ffrind Totoro.