Thomas Rees (Twm Carnabwth)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Paffiwr a oedd yn un o Ferched Beca oedd Thomas Rees, mwy adnabyddus fel Twm Carnabwth (1806? - 17 Tachwedd 1876).

Ganed ef ym Mynachlog-ddu, Sir Benfro. Dywed R.T. Jenkins nad oedd ganddo ran mor amlwg ag y tybir yn Helyntion Beca, ond daeth yn amlwg iawn fel paffiwr. Yn 1847, ymladdodd a gŵr o'r enw Gabriel Davies pan oedd yn feddw, a chollodd un o'i lygaid. Yn dilyn hyn, cafodd droedigaeth grefyddol ac ymaelododd a'r Bedyddwyr.

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.